Ruth Richards, prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi penodi Prif Weithredwr cyntaf y mudiad.

Cafodd Ruth Richards, o Fiwmares, ei phenodi yn brif weithredwr, wrth i’r mudiad lobïo yn ystod y misoedd nesaf dros gynllun iaith i Gymru.

Mae gan Ruth Richards dros ugain mlynedd o brofiad mewn polisi cyhoeddus yng Nghymru gyda’i harbenigedd ym maes polisi cymdeithasol, yr iaith Gymraeg, cydraddoldeb ac ymgysylltu cymunedol.

Bu am ddeng mlynedd yn swyddog cydraddoldeb ac iaith yng Nghyngor Gwynedd a chyn hynny bu’n gydlynydd gwrthdlodi yng Ngwynedd.

Wrth siarad am ei phenodiad dywedodd Ruth Richards bod y swydd yn “her newydd bersonol law yn llaw gyda sicrhau dyfodol grymus i’r Gymraeg.”

Meddai: “Peth cyffrous yw cael cychwyn y flwyddyn gyda her newydd, ac edrychaf ymlaen yn arw at gychwyn fy swydd newydd gyda Dyfodol i’r Iaith, at weithio gyda’r Cyfarwyddwyr a’r aelodau er mwyn sicrhau dyfodol grymus i’r Gymraeg, a hynny ar adeg mor fywiog a phwysig yn ei hanes.

“Dros y misoedd nesaf, bydd Dyfodol yn llunio cyfres o flaenoriaethau ar ffurf Cynllun Iaith i Gymru, i’w chyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Teimlaf yn hynod o falch o gael y cyfle i gyfrannu at y datblygiad arwyddocaol hwn.”

Ychwanegodd cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd: “Mae’r mudiad wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae yna lot o bwysau ar y cyfarwyddwyr. Mi oedd yna swyddogion datblygu ond mae angen rhywun i arwain yn y maes. Mae penodi Ruth yn golygu fod posib cydlynu ymdrechion yn well ac yn fwy effeithiol.”