Simon Thomas
Mae Plaid Cymru yn honni bod llwyfan ar-lein Llywodraeth Cymru “prin yn cael ei ddefnyddio”.
Ond mae’r Llywodraeth yn mynnu bod y llwyfan “wedi profi’n boblogaidd iawn”.
Fe gafodd llwyfan dysgu digidol Hwb ei lansio ym mis Rhagfyr 2012, er mwyn caniatáu bod holl ddisgyblion ac athrawon Cymru yn cael mynediad i adnoddau ar-lein.
Cafodd 31%, ar y mwyaf, o gyfrifon Hwb + eu defnyddio rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2014, yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru.
Disgrifiodd y cyn-Weinidog Addysg, Leighton Andrews, y system fel un ‘o’r radd flaenaf’ ar gyfer plant rhwng tair a 19 oed.
Syniad da wedi mynd yn ffliwt
Dywedodd Simon Thomas AC, Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, bod “y syniadau y tu ôl i Hwb a Hwb + yn gadarn mewn egwyddor; ond nid yw wedi llwyddo yn ymarferol, fel sy’n digwydd yn aml gyda Llywodraeth Cymru.
“Gwelais Hwb yn cael ei ddefnyddio dim ond y mis diwethaf ar ymweliad i Ysgol Gymunedol Doc Penfro. Yn amlwg mae rhai ysgolion yn ei ddefnyddio yn llwyddiannus ond mae angen cefnogaeth ar eraill ac mae angen iddo fod mor gyfeillgar â phosibl i’r defnyddiwr.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae Hwb+, y llwyfan dysgu ar gyfer Cymru gyfan, wedi profi’n boblogaidd iawn gyda disgyblion ac athrawon ers iddo gael ei lansio yn 2012. Mae ffigurau diweddar yn dangos bod dros 98% o ysgolion wedi sefydlu cynllun Hwb+.
“Yn ddiweddar, cadarnhaodd y Gweinidog [Addysg] estyniad gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn sicrhau bod y prosiect yn parhau tan Awst 2018. Fel rhan o’r estyniad caiff rhaglen Canolfannau Rhagoriaeth Hwb+ ei chomisiynu i gyflymu defnydd y llwyfan dysgu Hwb+ mewn ysgolion trwy gydol Gymru. Sefydlir deunaw Ganolfan Rhagoriaeth Hwb + mewn ysgolion a fydd yn rhoi cyfleoedd i ysgolion eraill, awdurdodau lleol a staff chonsortia addysg rhanbarthol gweld sut mae’r llwyfan dysgu Hwb+ wedi gwneud gwahaniaeth positif i ddysgu ac addysgu.
“Mae hyn yn newyddion gwych i ddysgwyr ac yn tanlinellu ein hymrwymiad i ddysgu digidol a’r buddsoddiad mewn technoleg mewn ysgolion.”