Mae prisiau’r tocynnau ar drennau Arriva wedi codi yn unol â phrisiau cwmnïau trennau eraill yng Nghymru a Lloegr.

Bydd teithwyr yn talu 2.5% neu 10 ceiniog yn fwy – pa un bynnag sydd fwyaf.

Mae prisiau cwmni First Great Western sy’n cludo teithwyr rhwng de Cymru a Llundain wedi cynyddu hefyd.

Drwyddi draw yng Nghymru a Lloegr mae pris cyfartalog tocyn trên wedi codi 2.2%.