Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddau gar gael eu rhoi ar dân yn Wrecsam yn oriau man y bore ma.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw am 2.45yb ar ddydd Mawrth, 30 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau bod dau gerbyd wedi cael eu rhoi ar dân yn fwriadol tu allan i eiddo yn Stockwell Grove, Wrecsam.

Roedd y ceir wedi eu parcio tua 30 metr ar wahân a gwnaed difrod sylweddol i’r ddau gar.

Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y ceir, meddai’r heddlu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r digwyddiad.

Mae’r heddlu’n apelio ar dystion a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal neu sydd â gwybodaeth i’w ffonio ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111.