Nid yw bron i 5,000 o gleifion yng Nghymru yn cael y gofal adfer priodol ar ôl iddyn nhw ddioddef o broblemau ar y galon, yn ôl adroddiad newydd gan Sefydliad y Galon Cymru.
Datgelwyd hefyd bod y gofal adfer yn cael ei gyflwyno “yn llawer arafach” yng Nghymru nag yn Lloegr.
Ar hyn o bryd, mae tua 8,000 o bobol sy’n cael trawiad ar y galon yng Nghymru bob blwyddyn yn aros hyd at chwe wythnos i gychwyn y broses adfer yn ôl Sefydliad y Galon Cymru.
Yn sgil y ffigyrau diweddar, mae cyfarwyddwr meddygol y sefydliad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth sy’n “gwella bywydau cleifion”.
Rhybudd
Dywedodd Dr Mike Knapton: “Mae gwasanaeth adfer y galon yn cael eu cyflwyno yn arafach nag oedden nhw saith mlynedd yn ôl ac mae miloedd o gleifion ar eu colled.
“Rydym wedi bod yn rhybuddio sefydliadau iechyd ynglŷn â hyn ers blynyddoedd ond does dim gwelliant wedi bod.
“Mae’n amser iddyn nhw ddarparu gwasanaeth sy’n gwella bywydau cleifion.”
Fe edrychodd yr adroddiad ar ddata o fwy na 250 o raglenni adferiad cardioleg, a 19 ardal yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda byrddau iechyd er mwyn ceisio sicrhau bod cynlluniau lleol yn gwella mynediad i wasanaethau adfer.