Map gwefan Traffig Cymru yn dangos y problemau
Yn ôl Cyngor Powys, fe fydd y Pont ar Ddyfi ger Machynlleth yn aros ynghau tan o leia 2.30 y prynhawn yma.
Bryd hynny, fe fydd Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal archwiliad i weld a oes modd agor y ffordd eto ar ôl llifogydd.
Y ffordd yw’r A487, y briffordd i lawr yr arfordir rhwng y De a’r Gogledd.
Fe gafodd y ffordd ei chau tua phedwar y bore ar gais yr heddlu ar ôl i’r afon godi’n gyflym ac achosi trafferthion cyfarwydd rhwng y bont a’r dre’.
Mae traffig wedi bod yn cael ei anfon ar hyd ffyrdd eraill gan ddilyn trefn sydd wedi ei hen sefydlu bellach.