Maes awyr Caerdydd
Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod Uwchgynhadledd Nato wedi “codi proffil Cymru ar draws y byd”, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y dylid manteisio ar hyn a chyflwyno mwy o deithiau awyr hir o faes awyr Caerdydd.

Yn ôl Eluned Parrott, mae’n amser i Lywodraeth Cymru “wneud yn lle dweud” er mwyn dod a mwy o fuddion economaidd i’r wlad.

“Mae hi’n amser i fanteisio ar y llwyddiant yma a gwneud yn siŵr bod Cymru yn aros ar y map, yn enwedig ar ôl y sylw gafodd y gynhadledd draw yn America,” meddai llefarydd y blaid ar economi.

“Ac un ffordd o wneud hynny fyddai sefydlu mwy o deithiau awyrennau hir o faes awyr Caerdydd.

“Byddai teithiau trawsatlantig yn elwa pobol o Gymru ac o America ac fe fyddai’n creu elw economaidd enfawr i Gymru.

“Mae Caerdydd mewn lleoliad da i greu teithiau newydd ac mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn lle dweud.”

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ddoe bod y gynhadledd yng Nghasnewydd fis Medi diwethaf wedi costio £3 miliwn i Lywodraeth Cymru ac wedi arwain at greu mwy na 1,100 o swyddi ledled Cymru.