Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi bod tri bardd ymysg yr 16 o artistiaid proffesiynol sydd i dderbyn grantiau Cymru Greadigol eleni.
Mae Samantha Wynne-Rhydderch, Jasmine Donahaye a Mab Jones eisiau gweithio ar brosiectau newydd, ac maen nhw wedi’u disgrifio fel beirdd sy’n “arwain y byd llên Cymreig i gyfeiriadau newydd”.
Nod y grantiau o hyd at £25,000 yw ariannu cyfnod o ymchwil fel bod artistiaid yn gallu datblygu eu gwaith..
Cystadleuaeth
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Dyfarniadau Cymru Greadigol Cyngor y Celfyddydau yn fodd i artistiaid dorri llwybr newydd yn eu maes, ac mae hynny i’w weld yn eu gwaith nhw i gyd.
“Mae cryn gystadleuaeth am y grantiau hyn, ac yr wyf yn llawenhau o weld bod tri llenor adnabyddus wedi eu cynnwys yn y rhestr o artistiaid. Ceir amrywiaeth hynod ddifyr o brosiectau a syniadau gan y tair ac edrychaf ymlaen at weld ffrwyth y gwaith llafur yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf.
Mae Jasmine Donahaye sy’n darlithio ym Mhrifysgol Abertawe yn derbyn £20,000; Samantha Wynne–Rhydderch o Brifysgol Drindod Dewi Sant yn derbyn, £14,350; a Mab Jones, bardd preswyl cyntaf Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, hefyd yn derbyn £20,000.