Nikki Holland
Mae un o uchel swyddogion Heddlu De Cymru wedi mynnu nad yw Caerdydd yn ganolfan ar gyfer recriwtio milwyr i’r mudiad milwrol Islamaidd IS.

Er bod pump o ddynion wedi eu harestio ar amheuaeth o gefnogi IS yn y ddinas ddoe, roedd y niferoedd yng Nghaerdydd yn fach o’i gymharu ag ardaloedd eraill, meddai Nikki Holland, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol.

Fe ddywedodd fod gormod o sylw wedi ei roi i dri dyn o’r brifddinas sydd wedi mynd i ymladd i Syria a fod hynny wedi ystumio’r farn gyhoeddus am yr hyn sy’n digwydd.

“Mae eu lluniau’n cael eu defnyddio dro ar ôl tro,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg ddoe. “Mae pobol yn credu bod Caerdydd yn gadarnle ar gyfer brawychaeth. Ond dim ond tri dyn sydd wedi mynd o Gaerdydd o gymharu â 550 trwy’r Deyrnas Unedig i gyd.”

Cyhoeddi enwau dau

Mae enwau dau o’r dynion a gafodd eu harestio ddoe wedi cael eu cyhoeddi – Rofi Isla a Sajid Idris.

Roedden nhw wedi eu cipio gan yr heddlu ar ôl cyrch ar nifer o gartrefi yn ardal Trelluest – Grangetown – yng Nghaerdydd ac yn Y Barri.

Mae’r pump, sydd rhwng 19 a 32 oed, yn dal i gael eu holi gan yr heddlu