Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod “angen sgwrs go iawn” am sicrhau rhagor o bwerau i Gymru yn sgil refferendwm yr Alban.
Cafodd argymhellion Comisiwn Smith eu cyhoeddi heddiw, sy’n rhoi mwy o bwerau i’r Alban dros y dreth incwm.
Mae’r Comisiwn hefyd wedi cefnogi datganoli’r dreth ar deithwyr awyr ac wedi awgrymu bod cyfran o’r arian sy’n cael ei godi o TAW yn cael ei roi i Holyrood.
Dylai Senedd yr Alban hefyd allu creu budd-daliadau newydd mewn meysydd sydd eisoes wedi eu datganoli, ac y gallai cyfres o fudd-daliadau i gefnogi’r henoed, gofalwyr, a phobl sâl neu anabl hefyd gael eu datganoli’n llawn, meddai’r adroddiad.
Un o’r argymhellion eraill oedd y dylai’r Alban gael pwerau dros ei hetholiadau ei hun, a allai arwain at roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn etholiadau Senedd yr Alban.
Wrth ymateb i’r argymhellion, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn disgwyl cynigion tebyg i Gymru.
‘Dulliau tameidiog’
Mewn datganiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Rhaid i’r hyn sydd wedi cael ei gynnig i’r Alban gael ei gynnig i Gymru hefyd, fel y gallwn ni benderfynu’n well ynghylch ein dewisiadau ni ar gyfer y dyfodol.
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi dweud yn gyson bod rhaid cael arian teg cyn rhoi unrhyw ystyriaeth i’r dreth incwm. Byddai’n hollol anghyfrifol derbyn tanariannu.”
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i Gymru gael rheoli trefniadau etholiadau a’r dreth ar deithwyr awyr.
“Byddai’n gwahaniaethu’n annheg yn erbyn Cymru pe na bai’r cynigion hyn ar gael, a byddwn yn disgwyl i Lywodraeth y DU egluro hyn yn ystod y dyddiau nesaf.”
Dywedodd nad oes modd parhau â “dulliau tameidiog” wrth drafod datganoli.
“Mae angen i ni gael sgwrs go iawn sy’n trin y pedair gwlad yn gydradd, ac sy’n datblygu safbwynt tymor hir ynghylch sut y dylai’r DU newydd edrych.”
Dywedodd fod y sefyllfa bresennol yn “ddryslyd” ac yn “hynod niweidiol” i undod y Deyrnas Unedig yn y tymor hir.
‘Cam anferth’
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams wedi croesawu argymhellion Comisiwn Smith, gan ddweud eu bod yn “gam anferth” tuag at sefydlu Deyrnas Unedig Ffederal a hunan-lywodraeth.
Ond rhybuddiodd na ddylai Cymru gael ei gadael ar ei hôl.
Mewn datganiad, dywedodd Kirsty Williams: “Tra bod cytundeb datganoli’r Alban ar gyfer y dyfodol yn eglur, ni ellir dweud yr un peth am Gymru – mae angen i hynny newid gan na all Cymru gael ei gadael ar ei hôl.”
Galwodd ar Gymru i “siarad ag un llais”, gan fynnu y dylai’r holl bleidiau gytuno ar brif egwyddorion y Comisiwn.
“Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod Cymru’n cael y pwerau y mae eu hangen arni i helpu i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach.”
Digon da i Gymru?
Adlewyrchu’r sylwadau hynny wnaeth AS Plaid Cymru Jonathan Edwards gan ddweud y dylai’r pwerau sydd wedi cael eu rhoi i’r Alban fod ar gael i Gymru hefyd.
“Yr her nawr,” meddai “yw cael esboniad i’r cwestiwn – os yw’r pwerau yma’n ddigon da i’r Alban pam nad ydyn nhw’n ddigon da i Gymru?”