Rhai o'r gynnai a ildwyd yn ystod yr amnest
Mae dros 150 o arfau wedi cael rhoi i heddlu yng Nghymru yn ystod amnest ar gynnau a drylliau.

Dros bythefnos, yn gorffen dydd Gwener ddiwethaf ,mae’r ymgyrch wedi annog pobl i ildio gynnau, drylliau, yn ogystal â rhai ffug, bwledi a ffrwydron rhyfel

Roedd yr ymgyrch yn cael ei redeg ar y cyd gan Heddlu Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent.

Dywedodd Brif Arolygydd Heddlu Dyfed-Powys Ieuan Matthews bod yr ymateb yn “wych”.

Meddai Prif Arolygydd Ieuan Mathews: “Rydym yn awyddus i gadw ein cymunedau’n ddiogel a thrwy gael gwared ar gynnau a bwledi hyn gyda chymorth y cyhoedd, rydym yn gwneud hynny,”