Un o drenau Arriva, sy'n dal y drwydded ar hyn o bryd
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Llundain i gyfrannu at gost trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a throsglwyddo’r pwer tros drwydded trenau Cymru a’r Gororau i Gaerdydd.

Fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn dod i Gymru heddiw i gyhoeddi heddiw bod y ddadl hir a chaled rhwng y ddwy lywodraeth wedi ei setlo.

Fe fydd Llywodraeth Prydain yn talu £105 miliwn am gost trydaneiddio’r brif lein o Lundain i Abertawe ac yn cyfrannu £125 miliwn – tua hanner y gost – at drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.

Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am gynnal y prosiect hwnnw ac fe fydd Trwydded Reilffordd Cymru a’r Gororau’n cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru, gan olygu mai  hi fydd yn penderfynu ar y cwmni i redeg y gwasanaeth o 2018 ymlaen.

‘O’r diwedd’ meddai Cameron

Mewn cynhadledd fuddsoddi yng Nghasnewydd heddiw, fe fydd David Cameron yn dweud ei fod wrth ei fodd gyda’r cytundeb.

“Ar ôl blynyddoedd o esgeulustod,” meddai, “fe fydd y rhan yma o Gymru o’r diwedd yn cael yr isadeiledd y mae ei angen gyda threnau cyflymach, mwy modern a mwy effeithiol – fe fydd yr effaith yn anferth.”

Roedd yn hawlio’r clod i Lywodraeth Prydain a’i strategaeth economaidd ond roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hefyd yn croesawu’r cytundeb.

“Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru symud ymlaen gyda’i chynlluniau uchelgeisiol i greu’r gwasanaeth effeithiol a dibynadwy y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu,” meddai.

Y ffrae

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cydnabod bod y syniad “yn farw” pan ddaeth ef i’r swydd bedwar mis yn ôl, gan ddangos cymaint o anghytundeb oedd rhwng y ddwy ochr.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales ei fod wedi gweithio’n galed i dynnu pobol at ei gilydd – mae’n hysbys fod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyn Ysgrifennydd, David Jones, yn ddifrifol wael.

“Roedd hwn yn gynllun rhy bwysig i’w golli,” meddai Stephen Crabb. “Y rhai fyddai’n colli fyddai pobol Cymru.”

Mae llefarydd trafnidiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Eluned Parrot, wedi hawlio’r clod am y cytundeb i ddylanwad ei phlaid hi yn llywodraeth y glymblaid yn Llundain.

Ond roedd ganddi rybudd hefyd y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n galed iawn i fod yn barod ar gyfer trafod y drwydded drenau yn 2018.

Y rhybudd

“Mae gan Lywodraeth Cymru lai na phedair blynedd i benderfynu beth y mae Cymru ei angen nawr ac yn y dyfodol, cynnal cystadleuaeth ar gyfer y drwydded, dewis cwmni ac yna sicrhau bod ganddyn nhw’r trenau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau deche,” meddai Eluned Parrot.

“Bydd hynny’n dipyn o gamp, ond gyda’r materion hyn wedi eu setlo a theithwyr yn gwybod ble i droi am atebion, bydd ein gwasanaethau rheilffordd yn wirioneddol atebol o’r diwedd.”