Mae tri uwch swyddog o Heddlu De Cymru wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiad o ddwyn £30,000.

Fe gafodd y Ditectif Rhingyll Stephen Phillips, 46, o Abertawe, y Cwnstabl Christopher Evans, 37, o Lanelli a Michael Stokes, 34, o Gastell-nedd eu harestio yn gynharach yn y flwyddyn ar amheuaeth o ddwyn yr arian o dŷ yn Abertawe.

Yn Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr heddiw, fe wnaeth y tri wadu’r cyhuddiadau.

Dywedodd yr erlynydd Gemma Vincent bod yr arian wedi dod o dŷ cwpwl o’r enw Natalie a Joedyn Luben, ar ôl i’r heddlu gynnal cyrch yno yn 2011.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod tri dyn wedi cael eu cyhuddo fel rhan o ymchwiliad ar y cyd gyda Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC).

Mae’r achos wedi cael ei ohirio ac fe fydd y tri dyn yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 8 Rhagfyr.