Creision Jones o Gymru
Mae cwmni bwyd o Gymru yn dweud y bydd ei berthynas newydd gyda Virgin Trains yn “hwb sylweddol” wrth geisio sefydlu ei hun fel y brand creision yng Nghymru.
Fe wnaeth Jones o Gymru sicrhau cytundeb gyda chwmni Richard Branson yn ystod ‘Diwrnod Môn’ yn San Steffan, sy’n cael ei gynnal yn flynyddol gan yr Aelod Seneddol Ynys Môn Albert Owen.
Dywedodd un o bartneriaid Jones o Gymru, Geraint Hughes: “Rydym yn amlwg yn falch o allu gweithio gyda brand mor eiconig, ac yn hapus y gall teithwyr o Euston i Gaergybi ac o Euston i Glasgow fwynhau paced o Jones.
“Mae’r cytundeb yma yn bwysig i Jones o Gymru, nid yn unig o ran gwerthiannau, ond o ran gallu amlygu brand y cwmni i gynnal tyfiant a momentwm at y dyfodol”.
Cyfryngau cymdeithasol
Yn ôl y cwmni, sy’n defnyddio tatws o Gymru i gynhyrchu eu creision ac sydd bellach yr unig gwmni creision sydd wedi’i leoli yng Nghymru, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rhan hanfodol wrth symud trafodaethau ymlaen gyda Virgin Trains.
“Mae effaith cyfryngau cymdeithasol ar fusnesau fel ein un ni yn eithaf anhygoel,” meddai Geraint Hughes.
Ychwanegodd Rheolwr Cymru Virgin Trains, Paul Cooper: “Rydym yn falch i weithio gyda chyflenwyr lleol megis creision Jones o Gymru.
“Mae cefnogi cwmnïau lleol ar hyd llwybr Gogledd Cymru yn bwysig i Virgin Trains, ac rydym yn teimlo bod y safon a gynigir gan Jones yn cyfrannu at brofiad y gwasanaeth rydym yn ei gynnig i’n cwsmeriaid sy’n dewis teithio gyda ni.”
Bydd creision Jones o Gymru ar gael ar drenau Virgin o fis Tachwedd 2014 ymlaen.