Mae Heddlu’r Gogledd ymhlith tri o heddluoedd sydd wedi cael eu cyfeirio at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) ynghylch y ffordd y gwnaethon nhw drin gwybodaeth ynglŷn â delweddau anweddus o blant.

Maen nhw, ynghyd â Heddlu Gogledd Swydd Efrog a Heddlu Swydd Essex, wedi’u cyhuddo o fethu ymateb i dystiolaeth a gawson nhw gan y Ganolfan Cam-fanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) ynghylch delweddau anweddus o blant.

Tynnodd Heddlu Swydd Essex sylw’r Comisiwn at farwolaeth Martin Goldberg, oedd wedi’i amau o brynu delweddau anweddus o blant, ym mis Tachwedd 2013.

Dywedon nhw eu bod nhw’n araf wrth ymateb i dystiolaeth yn ei erbyn.

Yn sgil yr achos hwnnw, derbyniodd pob heddlu yng Nghymru a Lloegr lythyr yn gofyn iddyn nhw ddweud a oedden nhw wedi derbyn deunydd gan yr Asiantaeth Torcyfraith (NCA) fel rhan o Brosiect Spade.

Yn dilyn y llythyr hwnnw, cyfeiriodd Heddlu Gogledd Swydd Efrog a Heddlu’r Gogledd eu hunain i’r Comisiwn.

‘Pryder’

Dywedodd Dirprwy Gadeirydd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu, Sarah Green: “Yn naturiol, mae cryn dipyn o bryder ymhlith y cyhoedd ynghylch y ffordd y mae heddluoedd yn ymdrin â throseddau rhyw sy’n ymwneud â phlant.

“Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n trin y mater hwn yn ddifrifol ac wrth fod yn rhagweithiol, fe gysyllton ni â’r holl heddluoedd a gofyn iddyn nhw adolygu’r ffordd y maen nhw’n trin tystiolaeth er mwyn mesur graddfa unrhyw faterion.

“Bydd ein hymchwiliad yn penderfynu’n ofalus sut y cafodd tystiolaeth gan y CEOP ei drin gan y tri heddlu hyn.”