Buodd y gantores Cerys Matthews yn darllen cerdd wrth i dorchau o babïau gael eu gosod wrth gofeb yng nghanol Llundain heddiw.
Roedd y Prif Weinidog David Cameron ymhlith y torfeydd enfawr o amgylch y Senotaff i ddynodi’r adeg y daeth cytundeb cadoediad rhwng lluoedd y Cynghreiriaid a’r Almaen i rym yn 1918, gan ddod a’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben.
Roedd Cerys Matthews yn darllen y gerdd ‘In Flanders Fields’.
Meddai Cerys Matthews: “Bu farw fy nhaid eleni. Roedd yn gyn-filwr yn yr Ail Ryfel Byd, felly dw i wedi dod yma i dalu teyrnged i bob aelod o deuluoedd a gollwyd mewn rhyfeloedd dros y blynyddoedd.
“Mae barddoniaeth mor bwerus ac yn ffordd wych o gamu mewn i esgidiau rhywun gan geisio cael darlun llawnach a syniad o sut yr oedd yn teimlo i fod yno.
“Pe bai yma nawr, byddai’n falch fod pobl yn cael eu cofio a bod yr achos o ryddid yn cael ei gydnabod.
“Fel arall, byddem wedi cael eu cymryd drosodd gan y Natsïaid, a byddai hynny wedi bod yn ofnadwy.”