Owen Smith, gwadu'r honiad
Mae’r Llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan wedi gwadu honiadau iddo rybuddio rhag marwolaeth ei blaid.

Ond, yn ôl recordiad o gyfarfod gwleidyddol, mae’n ymddangos fodd bynnag fod Owen Smith, AS Pontypridd, wedi awgrymu bod angen i’r blaid adfywio’i hun er mwyn osgoi ei gweld hi’n “marw”.

Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur, sôn am oed pobol sy’n mynd i gyfarfodydd gwleidyddol yr oedd Owen Smith, ac nid am ddyfodol y blaid yn gyffredinol.

Gollwng i’r cyfryngau

Cafodd recordiad ei ollwng i’r cyfryngau o Smith yn siarad mewn cynhadledd ddiweddar gan y Ganolfan Astudiaethau Llafur a Chymdeithasol.

Mae’n bosib clywed yr AS yn dweud bod angen i’r blaid fod yn “llawer, llawer mwy egnïol, neu fyddwn ni ddim yn denu’r genhedlaeth nesaf o bobol i ymladd yn y wlad hon ac os nad ydyn ni’n gwneud hynny fe fydd hi ar ben arnon ni”.

Fe gytunodd Smith hefyd â phanelwr arall a ddywedodd fod “ein mudiad mewn perygl o farw ac mae’n rhaid i ni wyrdroi hynny”.