Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posib i helpu bron i 350 o weithwyr purfa olew Murco yn Aberdaugleddau sy’n wynebu cael eu diswyddo ar ôl i gwmni Klesch dynnu nôl o gytundeb i brynu’r safle.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart ei bod wedi gofyn i weithgor Murco, a gafodd ei sefydlu ym mis Ebrill, i barhau i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith ar y safle.

Ychwanegodd fod y newyddion yn “ergyd drom i staff purfa Murco a chwmnïau o fewn cadwyn gyflenwi’r burfa” ac na fyddai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i weithwyr Murco yn dod i ben.

Mae undeb Unite wedi bod yn cyfarfod â gweithwyr a rheolwyr y burfa olew yn Aberdaugleddau heddiw.

Er gwaethaf y trafodaethau, mae disgwyl i hyd at 350 o weithwyr golli eu swyddi wrth i’r burfa gael ei droi’n safle i storio a dosbarthu tanwydd.

‘Siomedig a rhwystredig’

Mae perchnogion y safle wedi dweud eu bod yn “siomedig a rhwystredig” ynghylch penderfyniad y cwmni o’r Swistir.

Dywedodd y perchnogion wrth staff eu bod nhw wedi gwneud “pob ymdrech” i sicrhau bod y cytundeb yn cael ei gwblhau.

Cadarnhaodd is-lywydd cangen Brydeinig Murco, Bryan Kelly, y byddai’r gweithwyr yn derbyn hyd at 30 wythnos o gyflog fel rhan o becyn diswyddo “hael”.

Dywedodd: “Rydw i wedi siarad gyda rhai o’r gweithwyr heddiw ac maen nhw’n rhannu ein teimladau o rwystredigaeth a siom. Mae Murphy wedi gwneud popeth yn ei allu, gan gynnwys ymestyn terfynau amser.”