Meirion Prys Jones
Bydd cyn-bennaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cloriannu ymdrechion diweddar Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg yng nghynhadledd flynyddol mudiad Dyfodol i’r Iaith yr wythnos nesaf.

Heddiw fe gadarnhaodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai’n cadw’r cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yng Nghabinet y Llywodraeth, er gwaethaf galwad gan Gomisiynydd y Gymraeg Meri Huws ar iddo drosglwyddo’r portffolio i rywun arall.

Cafodd Carwyn Jones ei feirniadu’n ddiweddar gan ymgyrchwyr gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith ar ôl i’r Bil Cynllunio gael ei gyhoeddi oedd ddim yn cynnwys gair o sôn am y Gymraeg.

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd wedi beirniadu’r Llywodraeth am gwtogi’r arian sydd ar gael i Gymraeg i Oedolion, ond yn llongyfarch y Prif Weinidog am gynnig arian i gychwyn Canolfannau Cymraeg.

Ac yng nghynhadledd y mudiad yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth ar 15 Tachwedd fe fydd cyn-bennaeth Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, yn pwyso a mesur pa mor llwyddiannus fu trosglwyddo hyrwyddo’r iaith i weision sifil y Llywodraeth.

“Rydyn ni fel mudiad yn credu bod angen hyrwyddo’r Gymraeg ar raddfa eang, a bod angen sefydlu corff a fydd yn gyfrifol am hyn ac yn gwarchod y Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

“Rydyn ni wedi anfon tystiolaeth i bwyllgor craffu’r Cynulliad ar y Bil Cynllunio ac yn gobeithio gweld y Gymraeg yn cael ei chydnabod mewn deddf gynllunio.

“Bydd clywed sylwadau Meirion, sydd â phrofiad eang o hyrwyddo’r Gymraeg, ac sy’n gwybod yn fanwl am ymdrechion gwledydd eraill yn Ewrop, yn fodd i ystyried beth y mae angen ei flaenoriaethau yn y blynyddoedd nesaf.”