Jacob Williams (Llun o'i wefan)
Fydd penaethiaid Cyngor Sir Benfro fyth yn dysgu eu gwers, meddai Cynghorydd amlwg ar ôl clywed bod Archwilydd wedi atal taliad ffarwel dadleuol i Brif Weithredwr y Cyngor.
Yn ôl Jacob Williams, roedd y taliad o tua £330,000 wedi ei drefnu yn gyfrinachol rhwng arweinwyr gwleidyddol y Cyngor a’r Prif Weithredwr ei hun.
“Dyma enghraifft arall o’r Cyngor yn gwneud beth fynnon nhw ac rwy’n falch fod yr Archwilydd wedi gwrthwynebu’r Cyngor.
“Mae’n ymddangos bod y Cyngor wedi taflu arian at sefyllfa wael – a fyddan nhw byth yn dysgu?”
Y rhybudd
Cafodd Hysbysiad Ymgynghorol ei gyflwyno i’r Cyngor ddoe, sy’n eu rhwystro rhag gwneud y taliad.
Yn ôl yr Archwilydd Penodedig ar gyfer y sir, roedd yn credu y byddai taliad o’r fath yn anghyfreithlon – a hynny’n deillio o daliadau cyflog anghyfreithlon a oedd wedi eu gwneud i’r Prif Weithredwr Bryn Parry Jones cyn hyn.
Byddai’r Prif Weithredwr wedi derbyn y taliad ddiwedd y mis yn dilyn pleidlais gan y Cyngor bythefnos yn ôl.
Cyfrinachol
Yn ôl Jacob Williams roedd y trefniant i gyd yn gyfrinachol, wedi ei wneud rhwng Bryn Parry Jones ei hun ac arweinwyr y Cyngor.
“Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal y tu ôl i ddrysau caëedig ac ni chafodd cynghorwyr wybodaeth am y cytundeb – dim ond manylion ariannol gawson ni,” meddai.
“Gallaf innau ddal fy mhen i fyny a dweud na ches i ran yn y cyfan gan fy mod i’n teimlo bod y cytundeb yn amhriodol.
“Os bydd rhaid dod i gytundeb o’r newydd, fe allai’r canlyniad fod yn gwbl wahanol.”