Mae Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i honiadau gan gyn-ymosodwr Caerdydd, Cameron Jerome ei fod e wedi cael ei sarhau’n hiliol gan wrthwynebydd.

Dywedodd Jerome fod y sylwadau hiliol wedi cael eu gwneud gan amddiffynnwr Leeds, Guiseppe Bellusci yn yr ornest yn erbyn Norwich.

Mynegodd Jerome ei ddicter wrth y dyfarnwr Mark Clattenburg yn ystod y gêm nos Fawrth ac mae disgwyl i Clattenburg gyflwyno adroddiad ar y mater.

Cafodd hanner cyntaf yr ornest ei ohirio yn dilyn cwyn gan Jerome, ac fe siaradodd y dyfarnwr â Bellusci yn y fan a’r lle cyn i’r dyfarnwyr drafod y mater â’r ddau reolwr.

Derbyniodd Jerome garden felen am dacl flêr ar Bellusci ond daeth i’r amlwg ar ddiwedd y gêm fod chwaraewr Norwich wedi cyhuddo’i wrthwynebydd o’i sarhau yn hiliol.

Cadarnhaodd rheolwr Leeds, Darko Milanic y byddai’n cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.

Dywedodd Jerome ar Twitter na fyddai’n dweud yn gyhoeddus beth oedd Bellusci wedi dweud wrtho.