Mae sianel deledu newydd yng Nghaerdydd yn chwilio am noddwr er mwyn gallu darparu rhaglenni yn yr iaith Gymraeg.

Cafodd ‘Made in Cardiff’ ei lansio’n uniaith Saesneg yr wythnos hon, a Made Television fydd yn ei rhedeg.

Bydd newyddion yn cael ei ddarlledu ar yr awr, ac fe fydd rhaglenni am ddigwyddiadau’r ddinas a cherddoriaeth leol ar gael ar sianel 23 Freeview, Sky 134 a Virgin 159.

Y gobaith yw y bydd y sianel yn cyrraedd hyd at 80,000 o bobol o Ferthyr Tudful i Gasnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

Pan gafodd y sianel ei lansio ar Hydref 15, cafodd y rhaglen gyntaf ei darlledu o Ganolfan y Mileniwm yng nghwmni Mariclare Carey-Jones a Daniel Glyn.

Ymhlith y rhaglenni eraill a gafodd eu darlledu’r noson honno roedd y newyddion yng nghwmni Jeff Collins, a rhaglen am Ŵyl Gwobr Iris gan Siriol Griffiths.

Darpariaeth Gymraeg

Dywedodd y rheolwr Bryn Roberts bod rhai eitemau Cymraeg wedi cael eu recordio, gan gynnwys sgwrs rhwng Daniel Glyn a Gary Slaymaker, ac y byddan nhw’n ymddangos ar wefan y sianel.

Dydy’r wefan ddim yn fyw eto ac mae’r clipiau i’w gweld ar dudalen Facebook y sianel yn y cyfamser.

Dywedodd Bryn Roberts wrth Golwg360: “Rydyn ni wedi trafod efo Menter Caerdydd i greu ‘Pobl Caerdydd’ ar gyfer y teledu.

“Ond cyn i ni allu darlledu yn Gymraeg, mae angen i ni ffeindio noddwr ar gyfer rhaglenni.

“Mae rhai clipiau, gan gynnwys sgwrs efo Berwyn Rowlands am Wobr Iris, yn mynd ar ein gwefan ni ond dydy honno ddim yn barod eto felly maen nhw ar ein tudalen Facebook ni, MadeInCardiffTV.

“Rydan ni’n disgwyl i’r wefan fod yn barod o fewn ychydig wythnosau.”