Goden Fwg y Ffeniau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darganfod math o ffyngau prin newydd yng Nghymru, sy’n cael ei ystyried yn un o gorstiroedd a ffeniau pwysicaf y wlad.

Yn ystod arolwg diweddar, daethpwyd o hyd i Goden Fwg y Ffeniau (neu Bovista paludosa) ar Fynydd Epynt ym Mhowys.

Mae’n eithriadol o brin a dim ond pum enghraifft arall a gofnodwyd ym Mhrydain erioed.

Mae’r Arolwg Mawndir Cenedlaethol wedi bod yn edrych ar fanteision mawndiroedd i wneud swyddogaethau – fel storio miliynau o alwyni o ddŵr i helpu lleihau llifogydd a storio carbon er mwyn brwydro yn erbyn newid hinsawdd.

‘Gwaith pwysig’

“Nid yn aml y mae rhywogaethau y rhoddir blaenoriaeth i’w cadwraeth ac sy’n gwbl newydd i Gymru, yn cael eu darganfod,” meddai Sam Bosanquet, uwch ecolegydd llystyfiant Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae arolygu’r mawndiroedd hyn yn waith pwysig gan eu bod yn cyflawni cymaint o fanteision cudd i gymdeithas – mae’n rhaid inni sicrhau eu bod mewn cyflwr da.

“Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf mae’r tîm wedi darganfod y ffwng Geoglossum sphagnophilum am y tro cyntaf ym Mhrydain mewn safle yng Ngwynedd a’r Sacroleotia turficola am y tro cyntaf yng Nghymru yn Sir Gaerfyrddin.”