Safet Susic ac Asmir Begovic
Mae rheolwr Bosnia Safet Susic wedi dweud na fydd ei dîm yn marcio Gareth Bale yn benodol pan fydd Cymru’n herio Bosnia-Herzegovina heno.

Hon fydd gêm gartref cyntaf Cymru yn eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2016, ac mae disgwyl i Stadiwm Dinas Caerdydd fod bron yn llawn ar gyfer yr ornest.

Mynnodd Susic, fodd bynnag, na fydd ei dîm yn chwarae’n fudr wrth geisio stopio Bale, er ei fod yn cyfaddef mai seren Real Madrid fydd bygythiad mwyaf Cymru.

Ac fe rybuddiodd golwr Bosnia Asmir Begovic, sydd yn chwarae i Stoke, fod rhaid bod yn wyliadwrus i chwaraewyr eraill Cymru hefyd.

Bale yn beryglus

Wrth siarad â’r wasg, fe fynnodd rheolwr Bosnia na fydd ei dîm yn gadael i Bale gael lle gwag ar y cae, er gwaethaf y ffaith na fydd unrhyw un yn ei farcio’n benodol.

“Rwy’n parchu Gareth Bale fel chwaraewr gwych, ac fe fydd y chwaraewr mwyaf peryglus,” meddai Susic, gyda’i sylwadau’n cael ei gyfieithu i’r Saesneg gan swyddog y wasg.

“Wrth gwrs na fydd yn cael lle gwag i grwydro’r cae, ond wnâi ddim aberthu chwaraewr i redeg ar ei ôl am 90 munud.

“Ni fydd tasg arbennig gan unrhyw un o’n chwaraewyr ni [i fynd ar ei ôl]. Rydym yn dod fel tîm i gymryd tri phwynt mewn ffordd deg, ni fydd triniaeth fudr nac unrhyw chwarae budr.”

Begovic yn barod

Mae golwr Stoke Asmir Begovic wedi wynebu Bale sawl gwaith yn yr Uwch Gynghrair pan oedd y Cymro dal yn chwarae i Spurs.

Mae’n gwybod yn iawn felly faint o fygythiad sydd gan Bale ar ei droed chwith, ond fe ddywedodd y byddai’n gamgymeriad i Fosnia ganolbwyntio ar un chwaraewr yn unig.

“Dyw e ddim werth beth dalwyd amdano, a’r clwb mae’n chwarae iddi, am ddim rheswm,” meddai Begovic cyn y gêm.

“Wrth gwrs ei fod yn fygythiad mawr, ond mae rhai o’r chwaraewyr arall sydd gan [Gymru] yr un mor beryglus.

“Weithiau os ydych chi’n talu gormod o sylw i un chwaraewr mae’n agor bylchau i chwaraewyr eraill, felly’r dasg i ni yw talu sylw i’w tîm cyfan a gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud ein gwaith ni’n iawn.”

A oedd i fos yn Stoke, cyn-reolwr Cymru Mark Hughes, wedi rhoi unrhyw air o gyngor i Begovic cyn y gêm hon?

“Dydyn ni heb siarad ers ychydig wythnosau, dw i wedi bod yn cadw i ffwrdd o’r Cymry yn y garfan!” chwarddodd Begovic.

Anafiadau ar y ddwy ochr

Mae Cymru eisoes yn methu hyd at ddeg chwaraewr oherwydd anafiadau, gan gynnwys y chwaraewyr canol cae allweddol Aaron Ramsey a Joe Allen.

Ond mae gan Fosnia eu problemau eu hunain ag anafiadau hefyd gyda’r amddiffynwyr Ermin Bikacic, Emir Spahic a Sead Kolasinac, yn ogystal â’r chwaraewyr canol cae Goran Zakaric a Sejad Salihovic, yn methu’r gêm.

Dim ond pum amddiffynnwr sydd ganddyn nhw yn y garfan, a dim ond un o’r rheiny sydd â mwy na 15 cap, gan olygu’r posibiliad y gallai chwaraewr canol cae Everton Muhamed Besic gael ei ofyn i lenwi’r bwlch.

Yn debyg i Chris Coleman, fodd bynnag, mae Susic yn derbyn nad oes pwrpas poeni am yr absenoldebau hynny bellach.

“Fe fydd yn rhaid i ni wneud y gorau allwn ni hebddyn nhw,” meddai Susic. “Does dim cyfrinach fod ein hamddiffyn yn methu chwaraewyr.

“Mae rhestr hir o anafiadau gan y ddau dîm, yn enwedig gyda Ramsey ddim yn chwarae, ond mae’r un peth i’r ddau dîm felly does dim pwynt poeni am hynny.”

Fe allai absenoldeb Ramsey fod yn allweddol, fodd bynnag.

“Rydyn ni’n ymwybodol mai ef yw un o’r chwaraewyr gorau yn y tîm ar ôl Bale,” meddai Susic am garfan Cymru.

“Rwy’n siŵr y bydd pwy bynnag sydd yn cymryd ei le’r un mor dda. Ond fe fydd y gêm yn cael ei phenderfynu yng nghanol cae, rwy’n siŵr o hynny.”