Ymgyrchwyr o Gymdeithas yr Iaith wedi dod at ei gilydd yn Neuadd y Sir
Wrth i Bwyllgor Strategol y Gymraeg Cyngor Sir Gaerfyrddin gwrdd heddiw, mae ymgyrchwyr o Gymdeithas yr Iaith wedi dod at ei gilydd yn Neuadd y Sir gyda modelau o farcudiaid – er mwyn pwysleisio eu bod yn cadw llygad barcud ar waith y cyngor.

Fe wnaeth y cyngor dderbyn argymhellion Gweithgor y Gymraeg a rhoi cynllun yn ei le i hybu’r Gymraeg yn yr ardal, ond mae Cymdeithas yr Iaith o’r farn bod y broses yn “araf”.

Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011 bu cwymp o 6,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin ers Cyfrifiad 2001, a disgynnodd canran y siaradwyr Cymraeg i 44%.

Gweithredu brys

“Rydyn ni wedi codi pryderon gyda’r cyngor bod y broses yn araf ac wedi eu hatgoffa ei bod yn argyfwng ar y Gymraeg ac felly bod angen gweithredu brys,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn ardal Caerfyrddin.

“Er i ni gynnal parti yn yr Eisteddfod fe wnaethon ni ddweud na fydden ni’n dathlu go iawn nes i ni weld yn sicr fod y cyngor yn cadw at ei air ac y byddwn ni’n cadw llygad barcud ar eu gwaith yn arwain at Gyfarfod Tynged yr Iaith yn Sir Gâr ar 17 Ionawr.

“Bydd hynny ddwy flynedd wedi i ni gynnal Rali’r Cyfrif a naw mis ers i’r cyngor dderbyn argymhellion gweithgor y Gymraeg – a thraean o’r ffordd at y Cyfrifiad nesaf.

“Bydd cyfle i bawb benderfynu a yw’r cyngor yn cymryd ei waith o ddifrif.”