Mae’r heddlu yn Abertawe wedi arestio bachgen 15 oed ar amheuaeth o ladrata yn dilyn digwyddiad yn ardal Cilâ, Abertawe lle cafodd dynes oedrannus ei hanafu.

Cafodd swyddogion eu galw i dŷ yn St Christopher Drive, Cila tua 10:30yb ar 29 Medi, a darganfod dynes 93 oed wedi llewygu ar y llawr. Cafodd ei chludo i Ysbyty Treforys lle mae hi’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Cafodd ymchwiliad ei lansio ac mae wedi dod i’r amlwg fod rhywun wedi torri i mewn i dy’r ddynes oedrannus.

Yn ystod oriau man y bore ma, cafodd bachgen 15 oed ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

“Mae’r ymchwiliad yn parhau ac rydym yn cefnogi teulu’r ddynes,” meddai’r Arolygydd Mark Kavanagh o heddlu Abertawe.

“Hoffwn ddiolch i aelodau o’r cyhoedd wnaeth ymateb i’n hapêl am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un oedd yn ymddwyn yn amheus yn ardal Cilâ nos Sul.”