Bydd henoed gogledd Cymru yn cael cyfle i dreialu apwyntiadau ysbyty dros y we.
Mae’r cynllun peilot Rhaglen Ysbytai’r Dyfodol yn cael ei redeg gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Yn ôl y coleg, yr angen i newid a gwella gwasanaethau i gleifion sydd wrth wraidd y rhaglen.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ymysg pedwar o fyrddau iechyd dros y DU sydd wedi cael eu dewis i dreialu’r rhaglen.
Bydd yn golygu bod cleifion hŷn yn gallu mynd i’w meddygfa meddyg teulu er mwyn cael apwyntiad cyswllt fideo gyda’u hymgynghorydd yn yr ysbyty.
Dr Olwen Williams sy’n arwain y tîm sy’n anelu at wella mynediad i ofal ar gyfer cleifion oedrannus bregus yng Nghymru wledig.
Yr amcanion yw ymateb i anghenion iechyd, gan ddod â mynediad at ofal arbenigol o fewn cyrraedd rhai sy’n byw gryn bellter oddi wrth ysbytai ac i ryddhau ambiwlansys sy’n eu cludo i’r apwyntiadau.