Prifysgol Aberystwyth
Mae gweithwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi pleidleisio o blaid cynnal streic yn erbyn penderfyniad y brifysgol i ddod a’u cynllun pensiwn i ben.
Fe fydd y gweithredu yn digwydd dros gyfnod o bedwar diwrnod yn y flwyddyn academaidd newydd, yn ôl undeb Unsain.
Mae aelodau o Unsain, Unite, UCU a Prospect yn anhapus gyda chyhoeddiad y brifysgol ynglŷn â’r cynllun pensiwn, a fydd yn golygu bod nifer o’r gweithwyr yn wynebu colli canran fawr o’u harian pan maen nhw’n ymddeol.
“Yn amlwg, nid yw ein haelodau eisiau colli pedwar diwrnod o waith na tharfu ar ddiwrnodau cyntaf y myfyrwyr,” meddai rheolwr rhanbarthol Unsain, Simon Dunn.
“Ond o ystyried bod eu pensiynau am gael eu torri, maen nhw’n teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis.
“Mae’r brifysgol wedi penderfynu dod a chynllun pensiwn y bobol sydd ar y cyflogau isaf i ben.”
Ychwanegodd Wynne Ebenezer, cadeirydd cangen UNITE, lle gwnaeth 90% o aelodau bleidleisio o blaid gweithredu: “Rydym yn credu bod y newidiadau hyn i bensiynau yn gwbl ddiangen.”