Pont Briwet
Mae Pont Briwet ger Penrhyndeudraeth wedi agor i drenau Rheilffordd y Cambrian heddiw, a’r trên gyntaf bellach wedi croesi drosti.

Yn wreiddiol, roedd bwriad i agor y bont ym mis Mai ond bu oedi oherwydd tywydd garw a llanw uchel.

Cafodd y bont, sy’n ymestyn dros yr afon Dwyryd rhwng Llandecwyn a Phenrhyndeudraeth, ei chau ym mis Tachwedd 2013 oherwydd pryderon am ei diogelwch. Roedd wedi bod yn sefyll ers 154 o flynyddoedd.

Mae’r gwaith adeiladu yn rhan o brosiect gwerth £20 miliwn sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Network Rail, TraCC a Chyngor Gwynedd. Yn ogystal a rheilffordd, mae’r cynllun yn cynnwys creu ffordd ddeuol a llwybr seiclo ond ni fydd y ffordd ar agor i gerbydau tan y gwanwyn flwyddyn nesaf.

Oedi

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydyn ni’n falch o gadarnhau bod Rhan 1 o brosiect Pont Briwet wedi gorffen ac mae trenau gwaith rheilffordd bellach yn rhedeg dros y bont newydd ar reilffordd Arfordir y Cambrian rhwng Harlech a Phwllheli.

“Er hyn, rydym yn rhagweld y bydd oedi cyn agor y bont ffordd yn dilyn datganiad gan Hochtief, y contractwyr, bod gwaith sylweddol dal i’w gwblhau ar y safle.

“Ym mis Mawrth dywedwyd y byddai peidio â chodi pont dros dro ar gyfer ceir yn galluogi’r contractwyr i gwblhau’r gwaith yn gynt na’r disgwyl, felly mae’r newyddion yma yn ergyd drom i ni.

“Mae’r contractwyr yn wynebu problemau gyda throsglwyddo’r prif bibellau dŵr a gwasanaethau eraill i’r bont reilffordd newydd. Mae’n rhaid i’r gwaith hwn gael ei gwblhau cyn gall yr hen bont gael ei dymchwel a chychwyn y gwaith ar y bont ffordd newydd.”

Ychwanegodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart: “Fe fydd y bont newydd hon yn gwella teithiau ar y rheilffordd bwysig hon i ogledd-orllewin Cymru ac yn rhoi hwb economaidd a chymdeithasol i’r ardal.”