Isaac Nash
Mae tad y bachgen 12 oed, sydd ar goll yn y môr oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, wedi dweud ei fod wedi bod yn ceisio achub ei fab ieuengaf pan gafodd ei fab hynaf ei lusgo i’r môr.

Roedd Isaac Nash, o Huddersfield yn Swydd Efrog, a’i frawd bach Xander Nash, 10, ar wyliau gyda’u teulu pan gafodd y ddau eu llusgo i’r môr gan donnau garw gerllaw Aberffraw.

Cafodd Xander Nash ei achub o’r dŵr, ond mae Isaac Nash wedi bod ar goll ers amser cinio dydd Gwener. Mae timau achub wedi bod chwilio amdano yn ystod pob awr o olau dydd ers hynny.

Dywedodd tad Isaac, Adam Nash, 35, wrth y Mirror ei fod ef a thaid y bechgyn wedi ceisio achub y ddau o’r dŵr: “Ges i afael ar Xander a’i gael yn ôl. Roedd yn gafael arna’i o gwmpas fy ngwddw. Dywedodd nad oedd o’n medru nofio ddim mwy. Roeddwn i wedi ymladd hefyd. Wnes i feddwl, alla i ddim gadael iddo fynd,” meddai.

Gwaed ar ei wyneb

Ychwanegodd Adam Nash ei fod wedi gweld ei dad yn gorwedd ar greigiau, gyda gwaed ar ei wyneb, ei goesau a’i freichiau ar ôl ceisio achub y bachgen 12 oed:

“Fe ddywedodd o, ‘doeddwn i methu ei achub, doeddwn i methu ei achub’.”

Bydd y chwilio am Isaac Nash yn parhau’r bore ma.