Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a fu’n destun adroddiad damniol y llynedd, yn chwilio am brif weithredwr a chyfarwyddwr artistig newydd.
Yn ogystal â hynny, dywed y cwmni eu bod yn bwriadu gweddnewid y Bwrdd o ymddiriedolwyr.
Dywedodd adroddiad, a gomisiynwyd gan Gyngor y Celfyddydau, bod y cwmni “yn wynebu trafferthion dybryd o ran rheolaeth a llywodraethiant”. Awgrymwyd bod y Bwrdd yn ymddiswyddo a bod cadeirydd y cwmni, Andrew Davies, a dau gyfarwyddwr arall yn penodi Bwrdd newydd, cyn gadael eu hunain.
Yn wreiddiol dan yr enw Diversions, Roy Campbell-Moore a’i wraig Ann Sholem sefydlodd Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn 1983.
Ymddiswyddodd Roy Campbell-Moore fel arweinydd artistig y cwmni yn 2013 yn dilyn cwynion am ei ymddygiad. Ac ym mis Tachwedd o’r un flwyddyn, fe ddaeth ymddiswyddiad y cyfarwyddwr artistig Ann Sholem.
Ymchwiliad
Ar ddechrau mis Mehefin, roedd Plaid Cymru yn galw ar Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal ymchwiliad i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
“Mae’r cwmni dawns wedi derbyn swm sylweddol o arian, a dylai bod trefniadau yn eu lle i wneud y defnydd gorau o’r arian hwnnw,” meddai Bethan Jenkins.
Eleni mae disgwyl i’r corff dderbyn £853,125 gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15.