Mae dyn 21 oed o Lanelli wedi cael ei ddarganfod wedi marw yng Ngwlad Thai.

Roedd Jack Davies wedi bod yn teithio yn y wlad ers tair blynedd, ac fe gafodd ei ddarganfod ar ynys Ko Phi Phi ger Phuket.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac wedi talu teyrnged iddo.

Mewn datganiad, dywedon nhw ei fod yn “fachgen hyfryd ac roedd pawb yn ei garu”.

Cafodd teyrngedau eu rhoi iddo ar wefannau cymdeithasol hefyd.

Dywed y Swyddfa Dramor ei fod e wedi marw ar Awst 24 a’u bod nhw’n cynnig cefnogaeth i’w deulu.

Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod sut y bu farw.