Malky Mackay
Mae Cymdeithas Pêl-droed Lloegr yn cynnal ymchwiliad i honiadau o negeseuon hiliol a homoffobig gan gyn-reolwr clwb Dinas Caerdydd, Malky Mackay.

Ac mae’n ymddangos mai’r honiadau hynny sydd wedi rhwystro’r Albanwr rhag cael ei benodi’n rheolwr newydd Crystal Palace.

Ef oedd y ffefryn amlwg ddiwedd yr wythnos ddiwetha’ ond mae’n glir bellach na fydd yn cael y swydd.

Ffeil o wybodaeth

Fe ddaeth yn amlwg fod Caerdydd wedi anfon ffeil o wybodaeth at y Gymdeithas Bêl-droed yn Llundain yn cynnwys honiadau am negeseuon e-bost ffiaidd a oedd wedi eu hanfon rhwng Malky Mackay ac un arall o gyn weithwyr Caerdydd, Iain Moody.

Mae papur newydd y Daily Mail wedi cyhoeddi rhai o’r negeseuon hynny – os ydyn nhw’n ddilys, maen nhw’n cynnwys sylwadau hiliol a homoffobig a rhai’n dilorni merched.

Mae Malky Mackay ac Iain Moody wedi gwrthod rhoi sylw i’r cyfryngau ond, yn ôl y papur, roedd y negeseuon wedi dod i ddwylo Caerdydd wrth i’w cyfreithwyr ymchwilio i honiadau eraill y gamymddwyn.

Achos llys

Mae’r clwb Cymreig yn ystyried dod ag achos llys yn erbyn Crystal Palace ar ôl i’r clwb o Lundain gael gwybodaeth am gynnwys tîm Caerdydd cyn gêm yn eu herbyn y llynedd.

Mae’n ymddangos bod y cyfreithwyr wedi cael hawl i archwilio cyfrifiadur Iain Moody, a oedd erbyn hynny yn gweithio i Crystal Palace, a’u bod wedi dod o hyd i’r negeseuon.

Roedd Mackay wedi gadael Caerdydd ar ôl anghydfod hir rhyngddo a’r perchennog, Vincent Tan, tros weithgareddau prynu chwaraeon newydd.

Ar y pryd, roedd y rhan fwya’ o gefnogwyr Caerdydd yn cefnogi Mackay ac yn ffyrnig yn erbyn Tan, dyn busnes o Malaysia.