Mae cerddorion ac awduron o Gymru yn teithio i Awstralia y mis yma i gymryd rhan yng Ngŵyl Awduron Melbourne i nodi canrif ers geni Dylan Thomas.

Bydd yr awduron o Gymru, Rachel Trezise a John Williams, yn siarad am lenyddiaeth gyfoes o Gymru a gwaddol Dylan. Byddent hefyd yn cael eu hymuno gan Gareth Bonello a Richard James am ddwy awr o gerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm wedi dylanwadu gan Dylan Thomas, o dan y teitl ‘In Chapters’, cyfuniad celfyddydau a ddechreuwyd gan Richard a John sydd yn cynnal digwyddiadau multi-media.

Bydd y cerddorion ac ysgrifenwyr Cymraeg hefyd yn cydweithio gyda 2 ysgrifennwr newydd a 2 grŵp o gerddorion o Awstralia, wrth greu gwaith newydd o dan ddylanwad Dylan Thomas.

Mae’r digwyddiadau yn rhan o Starless and Bible Black, sef dathliad rhyngwladol o waith Dylan Thomas.

Dywedodd Dan Thomas, pennaeth y celfyddydau yn British Council Cymru, sy’n arwain rhaglen Starless and Bible Black: ”Rydym yn falch o nodi canmlwyddiant Dylan Thomas ac o godi proffil talent creadigol o Gymru yn yr Ŵyl. Bydd ein digwyddiadau hefyd yn cynnwys dangos dwy ffilm o Gymru ar y sgrîn fawr yn Federation Square ym Melbourne sef: Sleep Furiously, ffilm ddogfen lwyddiannus Gideon Koppel’ am fywyd ym mhentref Trefeurig yng Ngheredigion a The Colour of Saying gan Richard James a’r artist Anthony Shapland, sy’n archwilio agweddau lleisiol, telynegol, rhythmig a llenyddol ar fyd Dylan Thomas yng Ngorllewin Cymru.”

Dywedodd cyfarwyddwraig artistig Gŵyl Awduron Melbourne, Lisa Dempster: “Mae gwaith Dylan Thomas wedi cael effaith barhaol ac mae Gŵyl Awduron Melbourne yn falch o gael ymuno â chymuned lenyddol ryngwladol i ddathlu ei waddol.

“Mae’r dathliad rhyngwladol Dylan Thomas 100 yn creu’r cyfle perffaith i Ŵyl Awduron Melbourne archwilio ysgrifennu Cymreig cyfoes hefyd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â lleisiau cyffrous o’r rhan ddiddorol honno o’r byd i gysylltu ag awduron a darllenwyr o Awstralia.”

Bydd Gŵyl Awduron Melbourne yn digwydd rhwng 21 a 31 Awst. Bydd yr ŵyl yn denu cynulleidfa o dros 40,000 ac yn cynnwys 300 o’r awduron gorau o bedwar ban y byd.