Fe fydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry-Jones, yn cymryd cyfnod o absenoldeb o’i waith, a hynny i ddigwydd yn syth.
Gwnaed y cyhoeddiad mewn datganiad gan Arweinydd y cyngor y bore yma.
“Mae’r penderfyniad wedi ei wneud o ystyried y dyfalu sydd wedi bod ynglŷn â swydd y Prif Weithredwr,” meddai’r Cynghorydd Jamie Adams.
“Gwnaed y penderfyniad ar ôl dod i gytundeb rhyngof i a Mr Parry-Jones a chredaf ei fod er budd yr Awdurdod.”
Ychwanegodd na fyddai’n gwneud unrhyw sylwadau eraill ar y mater.
Cefndir
Ym mis Ionawr eleni fe ddechreuodd Heddlu Sir Gaerloyw ymchwilio ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ddweud bod Bryn Parry Jones a phrif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, wedi derbyn taliadau o dros £50,000 yn anghyfreithlon.
Cyhoeddwyd y mis diwethaf y byddai’r heddlu yn cychwyn ail-ymchwilio i’r honiadau ar ôl derbyn gwybodaeth newydd, ond na fyddai Cyngor Sir Penfro yn cymryd camau pellach i geisio adfer yr arian a dalwyd i Bryn Parry Jones.