"Diolch am yr arolwg" meddai Elfed Roberts
Mae 85% o eisteddfodwyr yn credu bod tocynnau’r Brifwyl yn rhy ddrud, yn ôl arolwg.
Dywedodd y rheiny bod £20 ar gyfer un tocyn oedolyn yn ormod i’w dalu.
Dros wythnos yr Eisteddfod fe wnaeth gwefan lleol.net holi pobol ar y maes am y prisiau ac fe dderbyniadd yr holiadur ‘Ydi pris mynediad i’r Eisteddfod Genedlaethol werth yr arian?’ dros 240 o ymatebion.
Disgrifiodd y wefan y canlyniadau fel rhai “diddorol” ac “ychydig yn ofidus”.
O’r ymatebion, roedd 80% yn ymwelwyr gyda’r gweddill yn cystadlu, gweithio neu’n arddangos.
Prynodd 67% o bobol docyn oedolyn am £20 gyda 68% yn dweud eu bod yn anhapus gyda’r pris hwnnw. 11% oedd wedi prynu tocynnau cynnar a oedd yn rhatach.
Bu cyfle yn yr holiadur i gynnig “pris teg” ar gyfer mynediad i’r Ŵyl. Y swm mwyaf poblogaidd oedd £15 gyda 30% o blaid hynny.
Diolch, meddai Elfed
Croesawodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, yr ymchwil i’r prisiau tocynnau.
“Rydan ni’n ceisio’n gorau glas i wneud yr Eisteddfod mor fforddiadwy â phosib, a dyna pam y gwnaethom ni gyflwyno’r cynllun ‘bargen gynnar’ eleni, gyda thocynnau unigol am £10 a thocynnau teulu am £20 i’r rhai oedd yn prynu ymlaen llaw,” meddai wrth y wefan.
“Fe wnaeth miloedd lawer fanteisio ar y cynllun, ac yr oedd y tocynnau rhataf ar gael hyd at rai dyddiau cyn yr Eisteddfod. Mi fyddwn i’n annog eich darllenwyr chi felly i brynu ymlaen llaw flwyddyn nesa er mwyn arbed arian.
“Roedd gennym ni nifer o gynigion eraill eleni, fel y tocyn wythnos a’r tocyn Maes B i bobl ifanc sydd ddim yn cael sylw yn eich holiadur chi.”
Costau
Dywedodd ei bod hi’n costio tua £3.5 miliwn y flwyddyn i gynnal yr Eisteddfod gan ddisgrifio’r incwm o werthiant tocynnau fel rhai “allweddol” o’u hincwm.
“Allem ni ddim cynnal Eisteddfod fel yr un yn Llanelli eleni heb yr incwm yma,” meddai Elfed Roberts wedyn.
Ychwanegodd gan ddweud bod y tocynnau yn “cynnig gwerth da am arian” o ystyried faint o weithgareddau sydd ar y maes gyda mynediad o 8.00am nes 11.00pm.
“Eleni gwelwyd llawer o ddatblygiadau newydd ar y maes fel y Tŷ Gwerin, y Lolfa Lên a’r Pentref Drama, sy’n golygu bod yna lawer mwy i’w wneud ar y maes bellach.
“Fodd bynnag, yr ydym ni’n awyddus i ddatblygu pecynnau newydd dros y blynyddoedd nesaf i wneud yr Eisteddfod yn fwy fforddiadwy.
“Dyna pam yr ydym wedi comisiynu gwaith ymchwil i edrych ar strategaethau prisio gwyliau ac atyniadau eraill er mwyn datblygu cynigion arbennig eraill i’r dyfodol.”