Mae bachgen 16 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac anafu, yn dilyn digwyddiad yn Y Coed Duon neithiwr.

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau iddyn nhw gael eu galw i ardal Bryn Road ac Apollo Way tua 11.15yh.

Mae dau ddyn lleol yn yr ysbyty wedi’u trywanu. Mae’r bachgen 16 oed yn dal i gael ei holi.

Yn y cyfamser, mae Heddlu Gwent yn galw at i dystion ddod ymlaen ag unrhyw wybodaeth berthnasol a allai fod o help i’r ymchwiliad.