Fe ymwelodd 15,177 o bobol ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar ar ddiwrnod llawn cynta’r wyl yn Llanelli.

Mae hynny fil yn llai na’r 16,571 oedd yn Ninbych ar y Sadwrn cynta’ y llynedd, a thair mil yn is na’r 18,207 ddaeth trwy’r gatiau ym Mro Morgannwg ar yr un diwrnod yn 2012.

Mae’r brifwyl yn cael ei chynnal ar faes parc arfordir Sandy ar hen safle gwaith dur Trostre yn nhre’ Llanelli.