Rene Griffiths
Mae cerddor o Batagonia wedi cael “llond bol” ar y ffordd mae’r Cymry yn rhamanteiddio’r sefyllfa draw ym Mhatagonia.

Yn ôl Rene Griffiths, wnaeth ymddangos yn ffilm Seperado! Gruff Rhys sy’n perthyn iddo, roedd y ffordd yr oedd y Cymry yn arfer trin brodorion Patagonia yn ymylu ar gaethwasiaeth.

Bydd cannoedd o Gymry yn teithio i Batagonia y flwyddyn nesaf i ddathlu 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry cyntaf ymgartrefu yno.

“Mae wedi cael ei ramanteiddio lawer iawn, iawn,” meddai Rene Griffiths. “Nawr maen nhw’n sôn bod y Cymry yn ffrindiau dros ben gyda’r Indiaid. Dyw hwnna ddim yn hollol wir… Roedd llawer iawn o Gymry yn bocsio gydag Indiaid achos o’n nhw ddim yn gwylltio. Roedden nhw’n cael Indiaid ar y ffarm achos o’n nhw’n bobol galed, ddim yn crio. Roedden nhw’n gweithio am fwyd, am ddillad… Roedd e fel rhyw fath o slavery bach.”

Fe fu’r llwythi brodorol yn groesawgar i’r mewnfudwyr o Gymru, meddai. “Rydan ni wedi mynd i Batagonia gyda’r diwylliant Fictoraidd, mi allech chi ddweud. Doedd yr Indiaid ddim yn siarad Cymraeg, na Sbaeneg chwaith. Chwarae teg, roedd yr Indiaid wedi eu gadael nhw i fyw. Roedd hil y Tehuelches yn bobol fawr fawr, ac mi fuasen nhw wedi gallu lladd y 150 o Gymry oedd wedi cyrraedd gyntaf mewn un diwrnod! Ond roedden nhw’n mynd i’w helpu.

“Wrth i’r Cymry symud yno fwy a fwy a fwy, mae’r Cymry yn dechrau cymryd y tiroedd gorau, ac mae mwy o bobol yn cyrraedd o bob man yn y byd.”

Dwyn tiroedd brodorol

Mae Rene Griffiths yn honni bod pobol yn “dwyn” tiroedd y brodorion hyd heddiw, gyda chyfreithwyr llwgr yn eu twyllo â phapurau ffug. “Dyw’r Indiaid ddim wedi cael yr un ysgol â’r bobol wyn. Doedden nhw ddim eisie i’r Indiaid astudio. Dw i wedi brwydro lot fawr dros Indiaid de America, ond dw i’n bwrw fy mhen yn erbyn y wal. Dydych chi ddim yn gallu trystio cyfreithwyr a’r heddlu.”

Mae cyfweliad llawn gyda Rene Griffiths am ei hunangofiant newydd yng nghylchgrawn Golwg