Mae’r dyn busnes Gary Klesch wedi dweud ei fod e wedi prynu safle purfa olew Murco yn Aberdaugleddau gan Murphy Oil.

Dywedodd ei fod yn “hapus iawn ac yn gyffrous” yn dilyn cadarnhad o’i benderfyniad.

Daw’r newyddion wedi sawl ymgais i brynu’r safle sydd wedi cynhyrchu 135,000 o gasgenni o olew bob dydd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Mae disgwyl i’r cytundeb newydd gyda Grŵp Klesch achub hyd at 400 o swyddi, gan ddod â chyfnod o ansicrwydd i ben.

Mae’r cytundeb newydd yn golygu y bydd Murphy Oil, sydd wedi’i leoli yn Arkansas yn yr Unol Daleithiau, yn dod â rhannau helaeth o’u busnes ym Mhrydain i ben.

‘Achub swyddi’

Dywedodd Gary Klesch: “Rwy’n hapus iawn ac yn gyffrous i gael bod yn rhan o’r prosiect yng Nghymru, ac o fod wedi achub llawer iawn o swyddi.

“Mae cyfranddeiliaid yng Nghymru wedi creu argraff arna i, yn enwedig yr Aelod Seneddol Stephen Crabb, sydd wedi gwneud gwaith anhygoel o dda.”

Does dim sicrwydd faint dalodd Grŵp Klesch  am y safle, ond fe ddywedodd y cwmni mewn datganiad eu bod yn “edrych ymlaen at ddod â thwf buddiol yn ôl i’r safle”.

Ychwanegodd y cwmni: “Trwy wneud buddsoddiad hirdymor, rydym yn ceisio diogelu dyfodol y burfa ar gyfer ei gweithwyr a’r gymuned ehangach.”

Daeth busnes i ben ar y safle ym mis Mai wedi i drafodaethau â chwmni Grey Bull o Lundain ddod i ben.

‘Diogelu dyfodol y burfa’

Mae Gweinidog yr Economi Edwina Hart wedi croesawu’r newyddion fod Grŵp Klesch wedi dod i gytundeb amodol i brynu’r burfa.

Dywedodd: “Mae’r cytundeb heddiw yn newyddion da iawn a dyma’r cam cyntaf tuag at ddiogelu dyfodol hirdymor y burfa yn Aberdaugleddau.

“Mae’r burfa yn hanfodol i economi Cymru ac yn gyflogwr pwysig yn lleol felly fe fyddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r holl bartïon a Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod y cytundeb yma’n llwyddo.”

Dywedodd y Cynghorydd David Pugh o Gyngor Sir Benfro bod y cytundeb yn “newyddion da i Sir Benfro, Cymru a gweddill y DU.”

Meddai’r aelod cabinet dros yr economi bod y cyngor yn edrych ymlaen at weithio gyda Klesch a’u bod “yn cymryd y cyfle hwn i longyfarch yr holl bartneriaid wnaeth ddod â’r trafodaethau hyn i ben yn llwyddiannus.”

‘Rhyddhad’

Dywedodd Paul Davies, AC y Ceidwadwyr yng Nghymru dros Breseli Sir Benfro y bydd y newyddion yn “ryddhad” i’r gweithwyr yno.

Meddai: “Mae llawer o fusnesau Sir Benfro yn cyflenwi nwyddau i burfa olew Murco, felly byddan nhw hefyd yn rhoi ochenaid o ryddhad nad oes gwaith wedi ei golli.

“Rwy’n croesawu’r newyddion y gall y burfa olew barhau i ddarparu tanwydd o ansawdd a chynnal ei safle fel cyflogwr pwysig yn economi Sir Benfro ymhell i’r dyfodol.”