Blog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad, yn dod a’r diweddaraf am y Cymry sy’n cystadlu heddiw.

*Dim medalau’n swyddogol ddoe, ond bocswyr yn sicrhau efydd trwy gyrraedd rowndiau terfynol

*Elinor Barker yn seithfed yn y seiclo

*Geraint Thomas yn cipio efydd yn y seiclo’n erbyn y cloc

*Brett Morse yn ffeinal taflu’r ddisgen

22:05: Bach o lwyddiant yn y tenis bwrdd heno i Ryan Jenkins o Bontypriff heno, yn curo’r Albanwr Craig Howieson 4-0 yn yr ail rownd.

20:30: Ffeinal taflu’r ddisgen i ddynion wedi gorffen bellach, a’r Cymro Brett Morse wedi gorffen yn bumed gyda thafliad 60.48m. Vikas Shive Gowds o India enillodd y gystadleuaeth gyda thafliad 63.64m.

Gymnasteg – Clinton Purnell wedi gorffen yn chweched yn y cychoedd.

Sboncen – par Cymru, David Evans a Deon Seffery wedi colli 2-0 yn erbyn par India. Y par dynion, David Haley a Scott Fitzgerald, wedi colli hefyd yn erbyn Lloegr, 2-0. Dim lwc yn y parau dynion chwaith i David Evans a Peter Creed, yn colli 2-0 yn erbyn Malaisia. Colli hefyd yn erbyn Awstraliad oedd hanes Tesni Evans a Deon Seffrey yn y parau merched.

Bowlio – triawd merched Cymru, Kathy Pearce, Kelly Packwood a Lisa Forey wedi colli yn eu gêm medal efydd yn erbyn De Affrica, gan orffen yn y safle gwaethaf oll, pedwerydd.

Tenis Bwrdd – Naomi Owen yn colli 4-1 yn y chwarteri yn erbyn Jian Fang Lay o Awstralia. Stephen Jenkins hefyd yn colli yn nhwrnament y dynion, 4-0 yn erbyn Quadri Aruna o Nigeria.

Hoci – Tîm merched Cymru’n fuddugol 4-0 yn erbyn Trinidad a Tobago yn y gêm 9-10.

18:20: Peter Creed a Tesni Jones wedi colli 2-0 yn erbyn Awstralia yn y sboncen i barau cymysg.

18:00: Yn anffodus, Sarah Connolly wedi colli yn ffeinal medal efydd y reslo 63kg i ferched yn erbyn Blandine Metala Epanga.

Y Cymry, Lizzie Beddoe a Rear Theaker wedi gorffen yn seithfed ac wythfed yn y bariau gymnasteg i ferched. Mwy o lwyddiant i’r Saeson wrth i Rebecca Downie gipio’r aur, a Ruby Harrold fynd â’r efydd. Larrissa Miller o Awstralia gipiodd y fedal arian.

16:50: Diweddariad Tenis bwrdd

– par merched Cymru, Charlotte Carey a Naomi Owen wedi curo par Seychelles o 3-0 yn yr ail rownd.

Angharad Phillips a Chloe Anna Thomas hefyd yn fuddugol 3-0 yn eu gêm ail rownd hwy yn erbyn Seland Newydd.

Gymnasteg – 5ed oedd safle Clinton Purnell o Gymru yn y gymnasteg artistig.

Badminton – Carissa Turner wedi colli 2-0 yn ei gêm yn erbyn Michella Chan o Seland Newydd.

15:20: Geraint Thomas wedi ennill medal efydd yn y ras ffordd yn erbyn y cloc, gydag amser 47:55.82. Alex Dowsett o Loegr yn ennill yr aur a Rohan Dennis â’r arian.

14:17: Geraint Thomas newydd ddechrau ei ras yn erbyn y cloc ar y ffordd. Sylwebwyr yn credu bod cyfle da ganddo, ond dibynnu’n llwyr ar gyflwr y coesau ar ôl y Tour de France. Luke Rowe a Scott Davies eisoes ar y ffordd – Rowe sydd â’r amser cyflymaf trwy’r checkpoint cyntaf hyd yn hyn. Scott Davies yn 16eg a Luke Rowe yn 17eg.

Daniel o’Connel wedi colli yn rownd gyntaf y tenis bwrdd, 4-0 yn erbyn Pierre-Luc Theriault o Ganada.

13:00: Stephen Jenkins wedi ennill ei rownd gyntaf yn y tenis bwrdd, yn curo Curtis Oshea Humphreys o Drinidad a Tobago, 4-1.

12:27: Y parau cymysg sboncen Cymreig, David Evans a Deon Seffery, wedi ennill eu gêm pwll F-04 yn erbyn Trinidad a Tobago, 2-0.

Y par Cymysg ym mhwll D-04, Peter Creed a Tesni Evans, hefyd wedi curo Trinidad a Tobago 2-0.

Sarah Connolly wedi colli ei rownd gynderfynol yn erbyn Geetika Jakhar o’r India yn anffodus, 4-1. Bydd hi’n herio Blandine Metala Epanga o Camerŵn am 17:12 heno am y fedal efydd.

12:00: Sarah Connolly wedi cael llwyddiant yn chwarteri y reslo 63kg i ferched, yn curo Stevie Kelly o Awstralia 4-0.

Tenis Bwrdd – parau dynion Cymru, Ryan a Stephen Jenkins. wedi colli 3-0 yn erbyn India yn y drydedd rownd.

11:30: Elinor Barker wedi gorffen yn seithfed yn y ras yn erbyn y cloc, gan gwblhau’r cwrs mewn 43:56.44. Linda Villumsen o Seland Newydd gipiodd y fedal aur mewn amser o 42:25.46. Roedd y Gymraes arall, Amy Roberts, yn ddeuddegfed.

Bowlio – parau merched Cymru wedi colli yn rownd y chwarteri yn erbyn De Affrica, 20-15.

Oliver Cole wedi colli 4-0 yn erbyn Armando Hietbrink yn rownd wyth olaf y reslo 86kg.