Mae’r heddlu wedi rhyddhau lluniau camerâu diogelwch o nifer o unigolion maen nhw’n awyddus i’w holi mewn cysylltiad â digwyddiad yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn diwethaf.

Roedd 1,500 o bobl yn gorymdeithio yng Nghaerdydd yn erbyn y trais yn Gaza pan drodd pethau’n dreisgar.

Roedd yr heddlu hefyd wedi cael ei feirniadu gan bobol oedd yn y brifddinas am ymateb yn “wael” i’r digwyddiad.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Steve Jones o Heddlu De Cymru bod y digwyddiad yn gwbl “annerbyniol”

Meddai: “Ar hyn o bryd mae swyddogion yn adolygu tystiolaeth er mwyn dod ag unrhyw droseddwyr o flaen eu gwell.

“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd bod digwyddiadau o’r fath yn brin iawn ac mae ymchwiliad ar y gweill i sut y cododd y digwyddiadau treisgar hyn.”

Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.