Mae ffigurau diweddaraf awdurdod Rajar yn dangos y bu cynnydd o 4,000 yn nifer gwrandawyr Radio Cymru yn y chwarter diwethaf.

Mae’r cynnydd yn golygu bod 147,000 bellach yn gwrando ar y gwasanaeth cenedlaethol.

Ond roedd gostyngiad sylweddol yn nifer gwrandawyr Radio Wales yn y chwarter diwethaf.

Dri mis yn ôl, daeth cadarnhad bod 472,000 o bobol wedi gwrando ar yr orsaf yn y tri mis blaenorol ond bellach, mae’r ffigwr wedi gostwng i 438,000 yn y tri mis diwethaf.