Pentref yr athletwyr yn Glasgow
Bydd athletwr o Awstralia yn ymddangos gerbron llys yn Glasgow heddiw, wedi ymosodiad honedig ar athletwr o Gymru ym mhentref athletwyr Gemau’r Gymanwlad.

Cafodd Francois Etoundi, sy’n 29 oed, ei arestio fore ddoe yn dilyn ffrwgwd ar safle Dalmarnock yn nwyrain y ddinas.

Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn sydd wedi cael ei arestio, ond daeth cadarnhad bod Etoundi wedi colli ei drwydded i gystadlu yng ngweddill y Gemau.

Yn ôl adroddiadau, y codwr pwysau Gareth Evans yw’r athletwr o Gymru ymosodwyd arno.

Nid yw Tîm Cymru  wedi gwneud sylw am y mater, ond fe wnaethon nhw gadarnhau wrth bapur newydd y Sydney Morning Herald eu bod nhw’n helpu heddlu’r Alban i ymchwilio i’r digwyddiad ac na fyddai’n briodol i wneud sylw pellach.

Nid dyma’r tro cyntaf i dîm Awstralia ddenu sylw am y rhesymau anghywir yr wythnos hon, wedi i’r prif hyfforddwr, Eric Hollingsworth feirniadu un o athletwyr cryfa’r wlad, Sally Pearson ar drothwy’r ras 100m dros y clwydi.

Dywedodd Hollingsworth fod Pearson, capten tîm Awstralia yn Glasgow, yn esiampl ddrwg i weddill y tîm, ac fe gafodd ei ddiarddel dros dro am ei sylwadau.

Yn y cyfamser, mae brawd y bocsiwr o Awstralia, Jordan Samardali wedi cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn ffrwgwd ger y sgwâr bocsio.

Roedd yn gandryll wedi i’w frawd golli, ac fe ddechreuodd daflu boteli o gwmpas yr ystafell, gan daro bachgen ifanc.

Roedd eisoes wedi sarhau’r dyfarnwr wedi i’w frawd golli.

Yn y cyfamser, fe fydd y codwr pwysau o Bapua Guinea Newydd, Toua Udia yn ymddangos gerbron llys yn Glasgow ddydd Gwener, wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol mewn archfarchnad Tesco yn y ddinas.

Mae Udia, sy’n 22 oed, wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad.