Lluniau o siop Asda, Brynmawr (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad o dil hunan-wasanaeth mewn siop Asda ym Mrynmawr.

Fe gafodd yr arian ei ddwyn tua 10.10yb ddydd Gwener, Mehefin 27.

Mae’r heddlu’n ceisio dod o hyd i ddyn a dynes a gafodd eu dal ar gamera – fe allen nhw fod â gwybodaeth bwysig a allai fod o fudd i’r ymchwiliad, yn ôl plismyn.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar y rhif 101