Mae Cymru wedi ennill eu trydydd medal aur yn Glasgow ar ôl i Jazz Carlin berfformio’n wych yn y pwll heno i ennill ras 800m dull rhydd y merched.

Roedd hi’n agos rhwng Carlin a Lauren Boyle o Seland Newydd, a orffennodd yn ail, drwy gydol y ras, ond yn y 100m olaf fe gyflymodd Carlin a gadael ei gwrthwynebydd dros ddwy eiliad y tu ôl erbyn y diwedd.

Fe dorodd hi record y Gymanwlad wrth gipio’r aur mewn amser o 8:18.11, ac yn ogystal â hynny hi yw’r ferch gyntag o Gymru i ennill aur yn y pwll yng Ngemau’r Gymanwlad ers dros 40 mlynedd.

Roedd yr emosiwn yn amlwg ar wyneb Carlin ar ddiwedd y ras, ac mae hi nawr wedi ychwanegu medal aur ar yr arian ac efydd a enillodd yn Delhi bedair blynedd yn ôl.

Fe fydd hi nôl yn y pwll fory i geisio ennill medal arall yn ras 400m dull rhydd y merched.