Mae cynllunwyr Cyngor Gwynedd heddiw wedi rhoi sêl eu bendith i gynllun i adeiladau ysgol newydd i ddisgyblion gydag anghenion addysg arbennig ym Meirionnydd a Dwyfor.
Y bwriad ydi cau Ysgol Hafod Lon yn Y Ffôr ac Uned Tŷ Aran yn Nolgellau, a chael y disgyblion i deithio i’r ysgol newydd sbon ym Mhenrhyndeudraeth.
Mae ymgynghoriad statudol ar y cynnig i sefydlu’r ysgol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd hefyd ac os bydd cymeradwyaeth terfynol i’r cynllun, bydd yr ysgol newydd yn cynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd therapi ac offer synhwyraidd.
Bydd yr ysgol yn darparu addysg ar gyfer hyd at 100 o ddisgyblion ac yn ôl y cyngor, dyw’r cyfleusterau yn Hafod Lon ac Uned Tŷ Aran ddim yn “cwrdd ag anghenion modern.
Bydd yr ysgol newydd hefyd yn cynnwys uned breswyl gyda chwe gwely a fydd yn caniatáu i ddisgyblion aros am gyfnodau byr neu hir, er mwyn rhoi seibiant i’w teuluoedd.
Oherwydd y ddarpariaeth yma, bydd llai o blant yn gorfod mynd y tu allan i Wynedd i dderbyn elfennau o’u gofal a’u haddysg.
Mae disgwyl i’r ysgol newydd gostio £12.4 miliwn.