Mae disgwyl i gwmni technoleg yn Abertawe greu dros 130 o swyddi newydd, fel rhan o gynllun sy’n derbyn buddsoddiad o £2.1m gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd y gwaith yn dechrau heddiw ar greu pencadlys newydd gwerth £625,000 i gwmni Trojan Electronics, a sefydlwyd gyda gweithlu o bedwar yng Ngorseinon yn 2002. Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni ddau safle yn y ddinas.

Mae Trojan Electronics yn cynnig gwasanaeth trwsio cynnyrch technolegol sy’n cael eu dychwelyd i siopau mawr gan gwsmeriaid. Mae hefyd yn gwneud gwaith i gwmnïau e-werthu ac yn cynhyrchu rhannau cyfrifiadurol.

Mae disgwyl i’r adeilad newydd ar hen safle ffatri Visteon ar Fabian Way gael ei gwblhau y flwyddyn nesa’. Yn y cyfamser, bydd y swyddi newydd yn dyblu’r nifer presennol sy’n gweithio i’r cwmni.