Blog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad, yn dod a’r diweddaraf am y Cymry sy’n cystadlu heddiw.

*Aur i Jazz Carlin yn yr 800m dull rhydd

*Arian i Aled Sion Davies yn y taflu disgen

*Efydd i Gymru yn y trioedd bowlio lawnt

*Rhys Jones yn cipio medal gyntaf Cymru ar y trac

*Georgia Davies yn torri record yn y pwll

21.39: Mae cystadlaethau tîm y gymnasteg wedi gorffen am y dydd, gyda’r medalau’n cael eu penderfynu yfory.

Ar ôl dau o’r pedwar camp mae tîm y merched yn drydydd gydag 81.398 o bwyntiau, y tu ôl i Awstralia sy’n ail, ac ar ôl tri o’r chwech camp mae tîm y dynion yn bedwerydd gyda 122.339 o bwyntiau, tri phwynt y tu ôl i Canada sy’n drydydd.

Mae’r decathlon hefyd yn gorffen yfory, ond mae’r cystadleuwyr bellach wedi cwblhau pump o’r deg camp.

Ni wnaeth yr un o’r Cymry’n rhy dda yn y naid uchel, a David Guest oedd yr unig un i sgorio’n dda yn y 400m gyda Curtis Mathews a Ben Gregory yn rhedeg amseroedd arafach na 50 eiliad.

20.51: Canlyniad arall i chi, sef bod Tracey Hinton wedi gorffen yn bedwerydd yn ffeinal 100m y T12 y merched gyda’i thywysydd Steffan Hughes, gan olygu ei bod hi’n methu allan ar fedal o drwch blewyn hefyd yn anffodus.

Mae Carys Parry hefyd wedi methu allan ar fedal yn ffeinal taflu morthwyl y merched hefyd ar ôl gorffen yn bumed.

Dyna ni o ran cystadlu’r Cymry heddiw felly heblaw am y tri sydd yn decathlon y dynion, a’r timau gymnasteg artistig.

20.44: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Medal gyntaf Cymru ar y trac, a Rhys Jones sydd yn ei chipio hi yn ras 100m T37 y para-athletau – canlyniad gwych i’r gŵr o Gaerfyrddin!

Yn anffodus roedden ni wedi gobeithio dod a newyddion am fedal arall yn y pwll i chi hefyd. Ond yn y munudau diwethaf mae Jemma Lowe newydd fethu allan ar fedal ar ôl dod yn bumed yn 200m y dull pili pala er gwaethaf y ffaith mai hi oedd un o’r ffefrynnau.

Nid hi oedd y Gymraes cyflymaf hyd yn oed – wrth i Alys Thomas gipio’r pedwerydd safle reit ar y diwedd.

20.17: Record Gymanwlad arall yn y pwll i Gymru, a tro Georgia Davies yw hi’r tro yma – am yr ail waith heddiw – wrth iddi hi nofio’r 50m dull cefn mewn 27.61 eiliad i gyrraedd y ffeinal.

Hi yw’r cyflymaf o holl nofwyr y rasys cynderfynol hefyd, felly fe fydd hi’n hyderus o fedal yn y ffeinal fory.

19.30: Ras wych gan Carlin, yn enwedig gan fod Boyle ar ei chynffon bron yr holl ffordd. Ond yn y 100m olaf fe ffeindiodd y Gymraes gêr arall, ac ennill o dros ddwy eiliad yn y diwedd.

Hon yw’r aur cyntaf i ferch o Gymru ym mhwll nofio Gemau’r Gymanwlad ers dros 40 mlynedd gyda llaw, felly canlyniad hanesyddol mewn mwy nag un ffordd.

19.25: MEDAL AUR I GYMRU!

A dyna ni, Jazz Carlin yn cipio aur i Gymru, ras wych i ennill 800m dull rhydd y merched! A nid jyst hynny, ond torri record y Gymanwlad yn y broses! Lauren Boyle o Seland Newydd yn ail.

19.15: Xavier Mohammed newydd orffen yn wythfed yn ffeinal 200m y dull cefn, ond dyma lle mae’r gobaith mawr am fedal yn y pwll i Gymru heno … mae Jazz Carlin allan ar gyfer yr 800m dull rhydd.

17.46: Ychydig o saib cyn rhagor o gystadlu yn y pwll heno felly, a’r uchafbwynt i Gymru fydd gweld Jazz Carlin yn mynd am fedal yn yr 800m dull rhydd, gyda Jemma Lowe, Alys Thomas a Xavier Mohammed hefyd mewn ffeinalau.

Cyn hynny fodd bynnag fe fydd Carys Parry’n cystadlu yn ffeinal taflu morthwyl y merched.

Mae Rhys Jones hefyd wedi cyrraedd ffeinal para-athletau y 100m T37, ac fe fydd Tracey Hinton yn rhedeg gyda’i thywysydd Steffan Hughes yn ffeinal 100m y T12.

Yn y cyfamser mae tîm hoci merched Cymru wedi colli o 2-0 yn erbyn yr Alban.

17.04: Dau ganlyniad arall i chi – yn anffodus ni orffennodd Tash Perdue yn ffeinal y gystadleuaeth codi pwysau 69kg i ferched.

Fe wnaeth Sian Corish a Jenny Corish yn well yn eu ffeinal saethu reiffl 50m nhw, gyda Sian yn wythfed a Jenny yn ddeuddegfed.

Fodd bynnag, mae timau gymnasteg artistig Cymru’n gwneud yn dda iawn, ac roedd y merched yn arwain eu cystadleuaeth nhw gyda’r dynion yn ail yn gynharach y prynhawn yma.

15.24: Dim ond un canlyniad i ddod i chi ers y tro diwethaf, ond mae’n un mawr i Gymru wrth i’r bocsiwr Sean McGoldrick drechu Jackson Woods o Awstralia yn ei ornest 56kg yn rownd yr 16 olaf. Doedd hi ddim yn ganlyniad unfrydol, felly lwcus yn fanno i McGoldrick.

Y rheswm nad oes llawer o ganlyniadau yw nad oes yna lawer o Gymru’n cystadlu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Sian a Jenny Corish yn paratoi i gystadlu yn ffeinal saethu reiffl 50m y merched mewn llai na hanner awr, a chyn chwech fe fydd tîm hoci merched Cymru a phedwarau bowlio lawnt y dynion yn chwarae.

14.23: Mae cystadlaethau tîm y dynion a’r merched yn y gymnasteg artistig hefyd wedi dechrau bellach, ond mae disgwyl i hwnnw bara drwy’r dydd felly mae’n anhebygol y bydd gennym ni ganlyniadau o hwnnw i chi’n fuan.

Er gwybodaeth, tîm merched Cymru yn y gystadleuaeth yw Angel Romaeo, Georgie Hockenhull, Jessica Hogg, Lizzie Beddoe a Raer Theaker, a thîm y dynion yw Clinton Purnell, Harry Owen, Iwan Mepham, Jac Davies a Robert Sansby.

14.13: Cwpl mwy o ganlyniadau i chi ar ddechrau’r prynhawn – dim ond wythfed a nawfed orffennodd Jonathan Edwards ac Osian Jones yn eu rhagbrawf taflu morthwyl nhw, felly dyw nhw ddim drwyddo i’r rownd nesaf.

Yn y bocsio dan 49kg, fodd bynnag, mae Ashley Williams wedi ennill ei le yn rownd yr wyth olaf ar ôl trechu Juliano Maquina o Mozambique yn unfrydol.

Mae’n ymddangos fod Prif Weinidog Cymru yn un o’r rhai fu’n cefnogi Williams yn ei ornest – mae Carwyn Jones fyny yn Glasgow heddiw yn gwylio rhywfaint o’r cystadlu.

13.27: Ar ôl tri chystadleuaeth yn y decathlon – y 100m, naid hir a thaflu siot – mae Curtis Mathews yn chweched gyda 2416 pwynt, Ben Gregory yn ddegfed gyda 2388, a David Guest yn 11fed gyda 2321, gyda’r naid uchel a’r 400m eto i ddod heddiw.

13.11: Lot o ganlyniadau’n ein cyrraedd nawr.

Yn y pwll nofio mae Daniel Jervis newydd chwalu ei ras ragbrawf yn 1500m dull rhydd y dynion, gan orffen bron i ddwy eiliad ar y blaen.

Yng nghystadleuaeth taflu siot y decathlon fe ddaeth Curtis Mathews yn bedwerydd yn ei grŵp ef gyda thafliad o 13.53m, gyda Ben Gregory yn chweched (13.03) a David Guest yn seithfed (12.43), a Mathews a Gregory’n torri recordiau personol.

Ar y cwrt sboncen mae Deon Seffrey wedi ennill ffeinal plat y merched o 3-1 yn erbyn Anaka Alankamony o India, tra bod Scott Fitzgerald hefyd yn fuddugol ym mhlat y dynion ar ôl trechu Hardeep Singh Reel o Kenya 3-0.

Yn rhagbrofion saethu trap y dynion dim ond 24ain a 25ain ddaeth Jonathan Davis a Mike Wixey, ac yng nghystadleuaeth y merched roedd Sarah Wixey yn 11eg a Katie Cowell yn 15fed, tra bod Matthew Richards wedi dod yn olaf yn ei ragbrawf taflu morthwyl ef.

Mae tîm hoci’r dynion hefyd newydd golli 4-3 i’r Albanwyr, a hynny er eu bod nhw’n ennill 3-1 ar hanner amser. Wps.

12.09: Rhai o ganlyniadau eraill y bore i chi nawr, gan ddechrau gyda chanlyniadau gwych yn y nofio.

Mae Georgia Davies wedi torri record y Gymanwlad i ennill ei rhagras 50m dull cefn hi, ac mae Jemma Lowe ac Alys Thomas hefyd drwyddo yn eu rhagras 200m y dull pili pala ar ôl dod yn gyntaf ac ail, tra bod Otto Putland yn ail yn ei ragras 50m dull rhydd y dynion.

Yn y decathlon fe ddaeth Ben Gregory yn bedwerydd yn ei grŵp ef gyda naid bersonol orau o 7.42m, a David Guest yn nawfed gyda 7.01, tra bod Curtis Mathews yn drydydd yn ei un ef gyda naid o 7.20.

Yn rownd ragbrofol saethu reiffl 50m y dynion dyw David Phelps na Mike Bamsey drwyddo i’r ffeinal, gyda Phelps yn 12fed a Bamsey’n 19fed.

11.25: MEDAL ARIAN I GYMRU!

A dyna’r fedal arian i Aled Sion Davies – ond mae’n siŵr y bydd yn cyfaddef mai nid honno oedd y lliw yr oedd wedi anelu i gael pan ddaeth i Glasgow.

Medal arall i Gymru felly, ond roedd llawer yn meddwl mai aur fyddai Davies yn ei gael yn y ddisgen para-athletau, ac felly teimladau cymysg o ystyried y canlyniad yna dw i’n siŵr.

11.16: Nes i ddweud y buaswn i’n dod a phwyntiau’r decathlon i chi, a dyma nhw – David Guest: 872, Curtis Mathews: 854, a Ben Gregory: 804.

Mae hynny’n rhoi Guest yn bedwerydd a Mathews yn chweched, ac maen nhw wrthi gyda’r naid hir nawr.

Aled Sion Davies dal heb lwyddo i wella ar ei ail dafliad, ac mae ar ei bumed nawr, felly amser yn rhedeg allan iddo gipio’r aur.

11.09: Cwpl o ganlyniadau eraill i chi hefyd, sef bod Tracey Hinton drwyddo yn y rhagras para-athletau’r 100m T12 i ferched, ac mae Xavier Mohammed wedi gorffen yn drydydd yn ei ragras nofio ef yn y 200m dull cefn.

Mae trioedd para-fowlio lawnt Cymru wedi colli 10-14 i Loegr fodd bynnag, tra draw ar y cwrt pêl-rwyd mae Cymru wedi trechu Barbados o 47-35 ar ôl ennill pob un o’r chwarteri.

11.04: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Canlyniad newydd gyrraedd o’r bowlio lawnt, sef bod trioedd Cymru wedi ennill o 16-14 yn erbyn Awstralia. Llongyfarchiadau i Jonathan Tomlinson, Marc Wyatt a Paul Taylor!

10.42: Aled Sion Davies yn llithro i’r ail safle ar ôl trydydd tafliad ef a Greaves, gyda thri i fynd. Y merched pêl-rwyd 23-18 ar y blaen hanner ffordd drwy’r gêm.

10.38: Canlyniadau cyntaf y decathlon i chi, ac mae dynion Cymry wedi gwneud yn dda yn y 100m. David Guest yn rhedeg 10.95, Curtis Mathews yn torri record bersonol gyda 11.03 a Ben Gregory yn rhedeg mewn amser o 11.26.

Fe wnai ddiweddaru chi gyda beth mae hynny’n ei olygu o ran pwyntiau yn y man. Yn y cyfamser mae Aled Sion Davies ymhellach ar y blaen yn y taflu disgen ar ôl ei ail dafliad, mewn brwydr agos gyda’r Sais Dan Greaves.

10.10: Mae Cymru bellach 10-9 ar y blaen yn y bowlio lawnt, a 22-16 ar y blaen yn y pêl-rwyd yn yr ail chwarter. Aled Sion Davies bellach wedi dechau ar ei gystadleuaeth taflu disgen, ac mae e ar y blaen ar ôl ei dafliad cyntaf.

9.47: Os ydych chi’n pendroni ble mae’r canlyniadau, does dim rhai wedi cyrraedd eto. Ond mae trioedd y dynion a ganol eu gêm yn erbyn Awstralia am y fedal efydd, gyda’r Awstraliaid 7-6 ar y blaen ar hyn o bryd.

Mae’r merched pêl-rwyd wrthi hefyd, ac ar y blaen 12-8 ar hyn o bryd yn y chwarter cyntaf yn erbyn Barbados.

8.55: Dim syndod fodd bynnag fod y bore yma’n dechrau gyda rhagor o fowlio lawnt – ac mae trioedd y dynion newydd gychwyn gêm bwysig tu hwnt.

Mae Jonathan Tomlinson, Marc Wyatt a Paul Taylor yn herio tîm Awstralia yn yr ornest ar gyfer y fedal efydd, ac fe ddown ni a’r canlyniad hwnnw i chi yn nes ymlaen y bore yma.

Mae gan drioedd para-fowlio Cymru hefyd gêm y bore yma yn erbyn Lloegr, tra bod y tîm pêl-rwyd yn herio Barbados am 9.30yb.

Bydd cystadleuaeth para-athletau taflu disgen Aled Sion Davies yn dechrau am 10.00yb, ac mae’r Cymro eisoes wedi dweud ei fod eisiau taflu dros 50m a nid yn unig torri ei record byd ei hunan ond “smasho fe”. Dim pwysau felly.

Fe fydd yna hefyd rowndiau rhagbrofol saethu trap i’r merched a dynion, yn ogystal â chystadleuaeth reiffl 50m i ddynion, ac mae dynion Cymru yn herio’r Albanwyr ar y cae hoci am 11.00yb.

Mae’r decathlon hefyd yn dechrau’r bore yma gyda David Guest, Ben Gregory a Curtis Mathews yn mynd amdani, tra bod yna hefyd ragbrofion yn y pwll, y para-athletau 100m i ddynion a merched, a thaflu morthwyl y dynion.

8.46: Mae nifer o sêr Cymru’n cystadlu heddiw, gan gynnwys Jazz Carlin yn ffeinal nofio yr 800m dull rhydd, a chapten y tîm Aled Sion Davies yn taflu’r ddisgen.

Fe fydd yna hefyd ffeinalau a chystadlaethau medalau yn y gymnasteg rythmig, saethu, codi pwysau ac athletau, yn ogystal â dechrau’r decathlon a rhagor o ornestau boscio.

Digon i’n cadw ni’n brysur drwy gydol y dydd, felly.

8.40: Bore da i chi, a chroeso eto i flog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad ble byddwn ni’n cadw llygad ar sut mae’r Cymry’n gwneud yn ystod y dydd.

Fe gawsom ni ddigon o gyffro dros y penwythnos, wrth i Gymru gipio un ar ddeg o fedalau ar ddydd Sadwrn cyn i Elinor Barker ychwanegu medal arian arall ddoe.

Mae’r tîm fyny i 18 o fedalau bellach, ac fe fyddwn nhw’n sicr yn gobeithio am ragor i ddod heddiw.