Tarodd Will Bragg 88, ei sgôr uchaf erioed mewn gemau 50 pelawd, y prynhawn ma wrth i Forgannwg guro Swydd Surrey o dair wiced yn Guildford yng Nghwpan Royal London.

Wrth sicrhau’r fuddugoliaeth heddiw, torrodd Morgannwg record wrth iddyn nhw sicrhau tair buddugoliaeth undydd ar ddiwrnodau olynol am y tro cyntaf erioed.

Cafodd Bragg ei gefnogi gan Murray Goodwin (74) wrth i’r Cymry lwyddo i gwrso 308 am y fuddugoliaeth.

Roedd Bragg wedi’i gynnwys yn y garfan yn lle’r is-gapten Jim Allenby, gafodd ei daro’n wael cyn yr ornest, ac fe fanteisiodd ar y cyfle.

Collodd Swydd Surrey eu wiced gyntaf yn gynnar, wrth i Tillekaratne Dilshan gael ei fowlio gan Graham Wagg.

Ond cyrhaeddodd Swydd Surrey eu hanner cant yn yr wythfed belawd yn dilyn cyfnod o glatsio gan Jason Roy a Steven Davies.

Collodd Roy ei wiced wrth i Swydd Surrey gyrraedd 79-2, ac fe ddilynodd Vikram Solanki wrth i’r Llundeinwyr lithro i 82-3.

Cyrhaeddodd Swydd Surrey eu cant yn yr ail belawd ar bymtheg wrth i Davies gyrraedd ei hanner cant oddi ar 44 o belenni.

Tarodd Rory Burns 87 gan adeiladu partneriaeth o 114 gydag Azhar Mahmood (57) wrth i Swydd Surrey gyrraedd 222-6.

Gorffennodd y tîm cartref 307-8 erbyn diwedd y batiad, gan sicrhau y byddai angen i Forgannwg dorri record 50 pelawd i gyrraedd y nod.

Collodd Morgannwg yr agorwr Jacques Rudolph yn gynnar yn y batiad wrth iddyn nhw gyrraedd 27-1, ond rhannodd Bragg a David Lloyd bartneriaeth o 67 am yr ail wiced wrth i’r Cymry osod y sylfeini.

Ond partneriaeth dyngedfennol y batiad oedd honno rhwng Bragg a Murray Goodwin (74) o 123 yn y pelawdau canol.

Collodd Goodwin ei wiced gyda Morgannwg yn 216-3 ac fe ddilynodd Bragg yn fuan wedyn wrth i’r Cymry ymestyn eu cyfanswm i 227-4.

Er gwaethaf colli wicedi Chris Cooke (8), Ben Wright (0) a’r capten Mark Wallace (20) o fewn che phelawd, tarodd Graham Wagg 37 oddi ar 36 o belenni wrth i Forgannwg gyrraedd y nod gyda naw o belenni’n weddill.

Morgannwg v Swydd Gaerloyw (nos Wener)

Tro’r bowlwyr oedd hi i serennu yn y T20 Blast nos Wener wrth i Forgannwg guro Swydd Gaerloyw o wyth wiced gydag wyth o belawdau’n weddill.

Llwyddodd Morgannwg i gyfyngu Swydd Gaerloyw i 108-9 wrth i’r ymwelwyr golli wicedi Michael Klinger a Chris Dent a chyrraedd dim ond 29-2 ar ddiwedd y cyfnod clatsio.

Doedd pethau fawr gwell i Swydd Gaerloyw hanner ffordd trwy’r batiad wedi iddyn nhw golli tair wiced mewn pedair pelawd i gyrraedd 50-5.

Collodd Adam Rouse ei wiced diolch i ddwylo chwim gan Stewart Walters i’w redeg allan wrth i Swydd Gaerloyw lithro i 74-6.

Gyda’r cyfanswm yn 97, collodd yr ymwelwyr eu tair wiced olaf heb ychwanegu at y cyfanswm i orffen y batiad ar 108-9.

Collodd Morgannwg ddwy wiced gynnar wrth i Jim Allenby a Mark Wallace ddychwelyd i’r cwtsh o fewn tair pelen i’w gilydd, ond sicrhaodd partneriaeth o 81 rhwng Jacques Rudolph (44) a Murray Goodwin (41) fod y Cymry’n cyrraedd y nod wedi 12 pelawd.

Bydd Morgannwg yn herio Swydd Gaerhirfryn ar Awst 1 yn rownd yr wyth olaf – y trydydd tro yn hanes y gystadleuaeth i’r Cymry gyrraedd yr wyth olaf.

Morgannwg v Pantherod Swydd Middlesex (dydd Sadwrn)

Daeth buddugoliaeth gyntaf Morgannwg yng Nghwpan Royal London ddydd Sadwrn, wrth i’r Cymry guro Pantherod Swydd Middlesex o saith wiced yn Stadiwm Swalec, diolch yn bennaf i bartneriaeth o 136 rhwng Jacques Rudolph (61) a Jim Allenby (70).

Dechreuodd Morgannwg yn gadarn wrth iddyn fowlio’n gyntaf, a chipiodd Michael Hogan wiced gynnar, wrth fowlio Dawid Malan gyda’i bumed pelen.

Dilynodd Chris Rogers yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan David Lloyd oddi ar Hogan, ac fe gollodd Eoin Morgan o fewn ychydig o belenni hefyd, wrth i’r ymwelwyr lithro i 33-3 yn y ddeuddegfed belawd.

Trodd 33-3 yn 53-4 wrth i’r wicedwr Mark Wallace ddal Ryan Higgins oddi ar fowlio Dewi Penrhyn-Jones, oedd yn chwarae yn lle James Harris, oedd yn anghymwys i wynebu’r clwb y mae wedi’i gytundebu iddyn nhw.

Collodd y Pantherod bedair wiced am 37 o rediadau wrth iddyn nhw gyrraedd 90-8 cyn i Neil Dexter a Steven Finn gynnig llygedyn o obaith i’r ymwelwyr gyda chyfres hir o senglau i gyrraedd partneriaeth o hanner cant i sicrhau bod y Pantherod yn cyrraedd 174-8 erbyn diwedd y batiad.

Dechreuodd y batiad yn gadarn i Forgannwg wrth i Jim Allenby a Jacques Rudolph gyrraedd yr hanner cant erbyn diwedd y degfed pelawd.

Cyrhaeddodd Allenby ei hanner cant oddi ar 58 o belenni wrth i Forgannwg gyrraedd eu cant yn yr unfed belawd ar hugain.

Cyrhaeddodd Rudolph ei hanner cant yntau oddi ar 60 o belenni wrth i Forgannwg agosáu at y nod.

Collodd Rudolph ei wiced am 61 cyn i Allenby hefyd ddychwelyd i’r pafiliwn yn fuan wedyn am 70.

Wedi i Murray Goodwin hefyd golli’i wiced, roedd y cyfrifoldeb o gyrraedd y nod yn nwylo Mark Wallace a Chris Cooke, ac fe sicrhaon nhw’r fuddugoliaeth ym mhelawd rhif 37.